Mae Heddlu De Cymru wedi bod yn cynnal ymarferiad heddiw gogyfer ag ymweliad y Fflam Olympaidd â de Cymru.

Ar 25 Mai bydd y fflam yn cyrraedd Cymru yn Nhrefynwy, a bydd swyddogion o heddlu Llundain yn ogystal â heddweision lleol ar ddyletswydd er mwyn gwneud yn siwr fod y daith o amgylch Cymru yn un hwylus.

Heddiw aeth modurgad o 22 o gerbydau a 12 beic modur dros fynydd y Bwlch o Dreorci i Nantymoel er mwyn i’r heddlu gael ymarfer ar yr un llwybr y bydd y fflam yn teithio arno ym mis Mai. Roedd hofrennydd yr heddlu yn hedfan uwchlaw er mwyn bwydo lluniau byw i’r ganolfan reoli a fydd yn cynllunio taith y fflam.

Dywedodd yr Uwcharolygydd Steve Furnham, sef Comander y Fflam: “Mae taith y fflam yn cynnig cyfle bythgofiadwy i bob un a fydd yn cludo’r fflam, a’n gwaith ni yw gwneud yn siwr eu bod nhw’n cael gwneud hynny’n ddiogel.

“Ry’n ni’n disgwyl y bydd miloedd o bobl yn dod mas i weld y fflam wrth iddi basio trwy eu cymuned nhw.”

Bydd y Fflam Olympaidd yn teithio o amgylch Cymru, rhwng 25 a 29 Mai, ar hyd y llwybr yma:

Trefynwy, Y Fenni, Casnewydd, Caerdydd, Merthyr Tudful, Penybont-ar-Ogwr, Castell Nedd, Abertawe, Llanelli, Caerfyrddin, Hwlffordd, Abergwaun, Aberteifi, Aberystwyth, Blaenau Ffestiniog, Pwllheli, Caernarfon, Bangor, Bae Colwyn, y Rhyl a Chei Cona.