Yr Archesgob Rowan Williams
Bydd Archesgob Caergaint, Rowan Williams, yn annerch cynulleidfa yn y Cynulliad heddiw, ac yn trafod pwysigrwydd uno a chryfhau ein cymunedau yn yr oes sydd ohoni.

Mae’r anerchiad gan Archesgob Caergaint yn rhan o’i daith ddiweddar o gwmpas Cymru, lle mae wedi bod yn trafod pethau fel dylanwad Waldo Williams arno, ac yn cymryd rhan mewn gwasanaeth mewn eglwys yn Sir Benfro.

Bydd y gynulleidfa heddiw yn cynnwys aelodau o’r cyhoedd a gwesteion arbennig, ac yn cael ei gynnal yn adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd.

“Mae’n bwysig ein bod yn gallu uno’r cyhoedd yng Nghymru gyda ffigyrau cyhoeddus allweddol i drafod materion pwysig sy’n wynebu ein cymunedau, ac i sicrhau bod y trafodaethau hynny’n bwydo i mewn i’r broses o wneud penderfyniadau yma yn y Cynulliad,” meddai Llywydd y Cynulliad, Rosemary Butler.

“Mae’r Archesgob yn ffigwr allweddol ym mywyd cyhoeddus Cymru a’r Deyrnas Unedig, a bydd yn anrhydedd i mi ei groesawu i’r Senedd.”

‘Cryfhau cymdeithas’

Wrth annerch y gynulleidfa yn y Cynulliad heddiw, mae disgwyl i’r Archesgob drafod ei weledigaeth am gymdeithas, a’r ffactorau sy’n uno a chryfhau cymunedau.

Yn y gorffennol mae Rowan Williams wedi bod yn feirniadol iawn o Lywodraeth San Steffan, yn enwedig o’u syniad o’r ‘Gymdeithas Fawr’. Mae e hefyd wedi beirniadu eu polisi o doriadau, gan ddweud mai’r “pobol fwya’ bregus yn y gymdeithas” sy’n dioddef – ac mae’n disgwyl i’r materion hynny gael sylw ganddo heddiw.

Bydd yr Archesgob hefyd yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gyda’r gynulleidfa wedi’r anerchiad.

Y bore ’ma fe fu Dr Rowan Williams yn gwylio dadl yn Siambr Tŷ Hywel rhwng pobol ifanc o bob cwr o Gymru – digwyddiad sy’n cael ei drefnu ar y cyd gyda CEWC Cymru, sef elusen addysgol sy’n annog pobol ifanc i gymryd mwy o ran yn y gymdeithas.