Heddlu De Cymru - ymchwiliad
Fe fydd ymchwiliad yn dechrau i’r ffordd y mae Heddlu De Cymru wedi trin achos o lofruddiaeth yn y Cymoedd.

Fe gyhoeddodd Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu eu bod wedi eu galw i ymchwilio i’r digwyddiadau o amgylch marwolaeth Derek Mahoney yn Ynysowen ger Merthyr.

Mae’n ymddangos bod yr heddlu wedi cael cysylltiad gyda’r achos, cyn i gorff y dyn 61 oed gael ei ffeindio y tu allan i dŷ yn ardal Mount Pleasant.

Mae Heddlu De Cymru’n dal i ymchwilio i’r farwolaeth wythnos yn ôl ac fe gafodd y Comisiwn eu galw ar unwaith.

Roedd Comisiynydd Cwynion Cymru yn pwysleisio mai ymchwiliad yr heddlu i’r llofruddiaeth ei hun a fyddai’n cael blaenoriaeth.

Yn union wedi’r digwyddiad, fe gafodd dyn lleol 47 oed ei arestio ond fe gafodd ei rhyddhau wedyn ar fechnïaeth.