Ddoe fe ddatgelodd y Sianel pwy fydd y Comisiynwyr newydd fydd yn penderfynu pa raglenni fydd yn ymddangos ar y sgrîn fach.

Mi holodd golwg360 am gefndir y pedwar newydd, a dyma gafwyd gan S4C:

 Sioned Wyn Roberts – cynhyrchydd gyda phrofiad eang o greu cynnwys teledu a phrosiectau rhyngweithiol o fewn y BBC a’r sector annibynnol. Cyn uwch-gynhyrchydd gyda’r BBC. Yn ddiweddar wedi bod yn cynhyrchu prosiect rhyngweithiol Alphablocks i sianel CBeebies.

 Llion Iwan – darlithydd ym Mhrifysgol Bangor. Cyn gynhyrchydd/gyfarwyddwr yn Adran Ffeithiol, BBC Cymru. Ymhlith y rhaglenni mae wedi eu cyfarwyddo mae Dic Jones: Yn ei eiriau ei hun i S4C, Drowning of a Village a The Man Who Jumped Beneath the Earth i BBC Wales a Search for Speed i rwydwaith BBC1.   

Gwawr Martha Lloyd – Cynhyrchydd drama gyda BBC Cymru wedi gweithio ar nifer o gyfresi drama poblogaidd gan gynnwys Pobol y Cwm. Bu’n is-gynhyrchydd ar y gyfres rhwydwaith BBC1 Mistresses ac mae hi ynghlwm â’r gwaith o ddatblygu talent yn adran ddrama BBC Cymru.

 Gaynor Davies – Golygydd Cynnwys Adloniant, S4C ac wedi gweithio ar gyfresi fel Ista’nbwl, Gwlad yr Astra Gwyn a Fferm Ffactor. Cyn ymuno â S4C bum mlynedd yn ôl, Gaynor oedd yn gyfrifol am greu a chynhyrchu’r gyfres Uned 5 a bu hefyd yn cyflwyno’r gyfres a nifer o gyfresi eraill i blant ac oedolion.