Leanne Wood yn cyrraedd y gynhadledd
Mae Leanne Wood wedi ymosod ar gynlluniau ariannol Llywodraeth Prydain i dorri trethi’r cyfoethocaf a chyflwyno tâl rhanbarth yn y sector gyhoeddus, ac yn honni nad yw David Cameron a Nick Clegg yn ffit i lywodraethu.
Roedd yn annerch cynhadledd Wanwyn y Blaid y prynhawn yma yn Ffos Las ger Trimsaran yn Sir Gaerfyrddin.
“Mae unrhyw lywodraeth sy’n torri’r cyfraddau treth ar gyfer yr 1% sy’n ennill y cyflogau uchaf yn yr un gyllideb ag y mae’n torri’r cyfraddau tâl i weithwyr y sectorau cyhoeddus yn y rhannau tlotaf, ac yn bwrw pensiynwyr yn galed yn eu pocedi, wedi colli pob synnwyr o’r hyn sy’n iawn a’r hyn sy’n anghywir. Fyddwn i’n dweud ei bod wedi colli’r hawl i lywodraethu.”
Gwleidyddiaeth sy’n bwysig, nid personoliaethau
Roedd adlais o eiriau Martin Luther King wrth iddi annog y Cymry i anelu’n uchel a gwireddu eu breuddwydion ar gyfer y wlad.
“Er mwyn creu cynnydd go-iawn mae angen i ni ddsgu sut i obeithio, i freuddwydio’r freuddwyd fawr. Gadewch i ni benderfynu heddiw, o hyn allan, i wneud ein gwleidyddiaeth ni’n wahanol. Gadewch i ni drafod syniadau, yn hytrach na phersonoliaethau. Gadewch i ni drafod ein gweledigaeth o’r hyn y gallai Cymru fod, yn hytrach na thanseilio eraill. Gadewch i ni wthio gobaith, nid gofid, optimistiaeth nid anobaith. Os gallwn ni wneud hynny, nid yn unig y gwelwn ni wleidyddiaeth well, ond fe welwn ni hefyd Gymru well.”
Annibyniaeth a thlodi
“Annibyniaeth – mae’n cychwyn pan r’yn ni’n dweud: Na, wnawn ni ddim a derbyn bod ein tlodi yn anochel. Wnawn ni ddim a derbyn yr hyn mae’n gwrthwynebwyr yn ei ddweud: na all y genedl hon fod yn llwyddiannus.
“Fe wnewn ni gredu yng ngallu ein busnesau i ffynnu, ac yng ngallu ein teuluoedd i lewyrchu. Fyddwn ni ddim yn rhoi fyny gyda derbyn fel y mae pethau, oherwydd mai dyna’r ffordd y mae hi wastad wedi bod.
“Rydyn ni eisiau i’n pobol ni esgyn i’r entrychion, a dan fy arweinyddiaeth i, mae Plaid Cymru eisiau gwireddu hynny.”
Roedd pobol yn cymeradwyo ac ar eu traed pan gyrhaeddodd hi’r llwyfan, ac ar eu traed wrth iddi orffen ei haraith. Ymateb cadarnhaol iawn gan y gynulleidfa, a’r lle yn llawn i’w chlywed hi wrthi.