Leanne Wood
Llai nag wythnos wedi i Leanne Wood gipio awenau arweinyddiaeth Plaid Cymru, mae hi wedi cyhoeddi newidiadau i lefarwyr y blaid mewn gwahanol feysydd yn barod.

Heddiw, cyhoeddodd Leanne Wood y byddai rhai newidiadau i ‘Gabinet Cysgodol’ Plaid Cymru dan ei harweinyddiaeth hi.

Yr amlycaf o’r newidiadau hynny yw na fydd gan Leanne Wood, fel arweinydd, gyfrifoldeb dros unrhyw faes penodol, yn wahanol i’w rhagflaenydd, Ieuan Wyn Jones.

Newidiadau

Un arall o’r newidiadau yw bod Llŷr Huws Gruffydd a Dafydd Elis-Thomas wedi ffeirio llefydd i bob pwrpas.

Fe fydd Dafydd Elis-Thomas nawr yn gyfrifol am Faterion Gwledig, Pysgodfeydd a Bwyd, tra bod Llŷr Huws Gruffydd yn cael cyfrifoldeb dros y portffolio Amgylchedd, Tai ac Adfywio. Meysydd Tai ac Adfywio oedd cyfrifoldebau Leanne Wood ei hun cyn iddi gael ei hethol yn arweinydd.

Er hynny, fe fydd Ieuan Wyn Jones yn cadw ei bortffolio ers ei ddyddiau fel arweinydd, gyda chyfrifoldeb dros Gyllid a’r Cyfansoddiad.

Un newid arall i gyfrifoldebau’r ‘Cabinet Cysgodol’ yw bod ynni bellach wedi cael ei roi ym mhortffolio’r Economi, yn hytrach na gyda’r Amgylchedd, fel yn flaenorol.

‘Tîm dawnus’

Wrth gyhoeddi ei Chabinet Cysgodol, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood AC, fod gan y Blaid “dîm dawnus, anhygoel o ACau sydd wedi dangos dro ar ôl tro eu hymrwymiad i Gymru a’r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu.

“Yn awr, fe fyddwn yn canolbwyntio’n gadarn ar y dyfodol – gwneud ein cymunedau yn gynaliadwy, ac adeiladu economi all gynnal Cymru ffyniannus.”

‘Cabinet Cysgodol’ newydd Plaid:

Arweinydd Plaid Cymru:       Leanne Wood AC

Economi ac Ynni:       Alun Ffred Jones AC

Iechyd:            Elin Jones AC

Addysg:          Simon Thomas AC

Materion Gwledig, Pysgodfeydd a Bwyd:    Dafydd Elis-Thomas AC

Cyllid a’r Cyfansoddiad:        Ieuan Wyn Jones AC

Ewrop, Llywodraeth Leol, Cymunedau a Thrafnidiaeth:      Rhodri Glyn Thomas AC

Treftadaeth, yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon: Bethan Jenkins AC

Gwasanaethau Cymdeithasol, Plant a Chyfle Cyfartal:         Lindsay Whittle AC

Amgylchedd, Tai ac Adfywio:           Llŷr Huws Gruffydd AC

Rheolwr Busnes a Phrif Chwip:         Jocelyn Davies AC