Christine Chapman
Bydd un o bwyllgorau’r Cynulliad yn cynnal ymchwiliad undydd heddiw i bolisi amddiffyn rhag yr haul yng Nghymru.
Cafodd yr ymchwiliad ei annog gan ddeiseb gafodd ei chyflwyno gan yr elusen ganser Tenovus yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu eli haul am ddim i bob plentyn o dan 11 oed yng Nghymru.
Roedd 9,000 o bobl wedi llofnodi’r ddeiseb a chafodd ei chyfeirio at y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i’w hystyried.
Ymwybyddiaeth
Ymhlith y cwestiynau y bydd aelodau’r Pwyllgor yn eu gofyn yw, a yw’r polisïau a’r canllawiau presennol i ysgolion o ran amddiffyn rhag yr haul yn effeithiol ac a oes digon o ymwybyddiaeth o ganllawiau o’r fath.
Bydd hefyd yn edrych ar yr argaeledd a’r defnydd, nid yn unig o eli haul, ond o fentrau eraill i amddiffyn rhag yr haul, fel darparu cysgod mewn ysgolion a gwisgo dillad addas.
‘Pryder’
“Mae maint y gefnogaeth sydd y tu ôl i’r ddeiseb hon yn dangos pryder amlwg ymhlith pobl yng Nghymru, a dyna pam ein bod wedi penderfynu cynnal yr ymchwiliad hwn,” meddai Christine Chapman, Cadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc.
“Mae digon o waith ymchwil yn dweud wrthym mai amlygiad i belydrau UV yw prif achos canser y croen.
“Felly byddwn hefyd yn edrych i weld a oes digon o ymwybyddiaeth mewn ysgolion o’r polisïau a’r canllawiau presennol o ran amddiffyn rhag yr haul yng Nghymru, ac os nad oes, beth yw’r ffordd orau o godi ymwybyddiaeth.”