Bydd deiseb yn cael ei chyflwyno i Bwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi’r gorau i’w chynigion ynghylch sefydlu system eithrio ar gyfer rhoi organau.
Mae’r ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi terfyn ar y cynigion ynghylch cael system eithrio gan ddweud ei bod yn “gwbl anfoesol”.
‘Tarfu ar hawliau unigolion’
Mae na bryder nad yw’r system yn ystyried barn perthnasau.
Mae’r ddeiseb yn datgan: “Er fy mod yn gwerthfawrogi’r ffaith bod angen rhoi organau er mwyn osgoi marwolaethau diangen, rwyf yn dal i gredu’n gryf mai penderfyniad i’r unigolyn ddylai hyn fod ac nid rhywbeth a gaiff ei orfodi arnom gan y wladwriaeth.”
Dywedodd Dr Morgan, Archesgob Cymru: “Mater o rodd, nid mater o ddyletswydd, yw rhoi organ, does bosib.”
Mae’r rhai sydd wedi llofnodi’r ddeiseb yn dweud bod y system yn annheg ac yn tarfu ar hawliau unigolion.
Bydd y ddeiseb yn cael ei chyflwyno i aelodau o’r Pwyllgor Deisebau ar risiau’r Senedd am 1pm.