Llys y Goron yr Wyddgrug
Cafwyd merch ifanc yn euog o lofruddio ei thad yn Llys y Goron yr Wyddgrug heddiw.

Clywodd y llys bod y gwerthwr creiriau Antoni Robinson, 61, wedi ei drywanu 15 o weithiau wrth iddo gysgu yn ei wely yn Hen Golwyn.

Heddiw penderfynodd rheithgor bod ei ferch, Ashleigh Robinson, 19, a’i chariad hi, Gordon Harding, 20, yn euog o’i lofruddio.

Clywodd y llys bod Gordon Harding wedi ymosod ar Antoni Robinson “wedi ei gefnogi a’i annog” gan ei gariad.

Dechreuodd Ashleigh Robinson grio wrth i’r rheithgor ddarllen y dyfarniad, ac fe gladdodd Gordon Harding ei wyneb yn ei ddwylo.

Roedd Ashleigh Robinson a Gordon Harding, o Stryd Llanelian, Hen Golwyn, wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth ar y cyd gyda Sacha Roberts, 19, o Woodland Road West, Bae Colwyn, a merch 16 oed nad oes modd eu henwi oherwydd ei hoed.

Does dim dedfryd eto yn achos Sacha Roberts a’r ferch 16 oed.

Yr ymosodiad

Dywedodd yr erlynydd Andrew Thomas bod yr ymosodiad wedi digwydd yn oriau man y bore 7 Gorffennaf y llynedd.

Clywodd y rheithgor fod gan Antoni Robinson glwyfau ar ei wyneb, ei wddf a’i gorff, gan gynnwys pedwar clwyf ar ei gefn.

Cafodd y gwythiennau ar ei wddf eu torri ac fe fu farw o fewn munudau i’r ymosodiad, meddai Andrew Thomas.

“Roedd y llofruddiaeth yn ganlyniad trasig i ddadl deuluol dros arian, gemau ac eiddo,” meddai.

Cyfaddefodd Gordon Harding iddo drywanu Antoni Robinson, ond honnodd ei fod yn ceisio amddiffyn ei hun.

Ar ôl yr ymosodiad gyrrodd Ashleigh Robinson neges destun at ei mam, Joanne Barr, gan ddweud bod ei thad wedi marw, clywodd y llys.

“Digwyddodd pethau, dydi o ddim yn bodoli rhagor. Sori Mam. xxxx,” meddai’r neges.