Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod chwech o bobl eraill yn dioddef o’r frech goch yn ardal Porthmadog, sy’n dod â chyfanswm yr achosion i 42.

Mae 30 o’r achosion hyn yn gysylltiedig ag Ysgol Eifionydd, Porthmadog.

Mae’r 12 achos arall yn yr un ardal ddaearyddol ond nid oes cysylltiadau uniongyrchol rhyngddyn nhw a’r achosion yn yr ysgol, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ar 15 Mawrth cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod gweithiwr gofal iechyd ym Meddygfa Bronmeirion, Penrhyndeudraeth, Gwynedd, yn un o’r 12 o achosion sydd ddim yn gysylltiedig â’r ysgol.

Roedd y gweithiwr gofal iechyd yn y gwaith am ddeuddydd tra roedd yn heintus, cyn i’r symptomau ymddangos.   Roedd 61 o bobl wedi dod i gysylltiad â’r gweithiwr gofal iechyd tra roedd yn heintus.

MMR

Meddai Dr Judy Hart, Ymgynghoryddd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’r rhan fwyaf o bobl a aned cyn 1970 yn imiwn i’r frech goch, gan eu bod wedi dod i gysylltiad â’r clefyd yn ystod plentyndod.

“Efallai na fydd pobl iau wedi cael eu hamlygu i’r frech goch ac felly gallan nhw fod mewn perygl o ddal y clefyd oni fyddan nhw wedi cael dau ddos o’r brechlyn MMR.

“Mae MMR yn frechlyn diogel ac effeithiol sy’n amddiffyn plant rhag un o’r anhwylderau feirysol mwyaf dybryd yn ystod plentyndod.”

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn annog rhieni yn y gogledd i sicrhau bod eu plant yn cael y brechiad MMR.

“Er bod mwy o blant yn cael y brechlyn MMR nawr, mae llawer o ffordd i fynd cyn y gallwn ni warantu bod plant Cymru’n ddiogel rhag y frech goch”, ychwanegodd Dr Judy Hart.