Porthmadog
Mae dyn a dynes yn yr ysbyty yn dilyn digwyddiad yn Harbwr Porthmadog neithiwr.

Am 8.40 yr hwyr, derbyniodd yr heddlu adroddiadau fod dynes yn y dŵr yn yr harbwr a bod dyn ifanc lleol a geisiodd ei helpu hefyd mewn trafferthion yn y dŵr.

Fe’u hachubwyd gan swyddog yr heddlu gyda chymorth criw’r bad achub lleol.

Cludwyd y dyn lleol 24 oed a’r ddynes 45 oed i Ysbyty Gwynedd lle maen nhw’n derbyn triniaeth am hypothermia.

Mae rheolwr gweithredol Gorsaf Bad Achub Cricieth, Peter Williams, wedi canmol y dyn wnaeth geisio achub y ddynes, a’r swyddog yr heddlu am eu dewrder.

Dyw’r ddau ddim wedi cael eu henwi a does dim mwy o wybodaeth ar hyn o bryd.