Wrth lansio cynghrair lobïo newydd, mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu pleidlais unfrydol yn y Cynulliad yr wythnos hon yn galw ar y Llywodraeth i sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i gynllunio ar gyfer cynyddu nifer y cymunedau lle mae’r Gymraeg yn brif iaith.

“Rydyn ni’n falch y bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu’r grwp i edrych ar sefyllfa’r Gymraeg fel iaith gymunedol,” meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Mae Biliau cynllunio a datblygu cynaliadwy’r Llywodraeth yn cynnig cyfle i’r Llywodraeth wyrdroi’r patrwm lle mae buddiannau datblygwyr yn cymryd blaenoriaeth dros fuddiannau’r Gymraeg a’i chymunedau. Mi fyddwn yn erfyn ar y Llywodraeth dros y misoedd i ddod i dderbyn bod datblygiadau tai mewn nifer o lefydd yn y wlad yn niweidiol i’r iaith, ac ymrwymo i newid y system gynllunio i atal y patrwm hwnnw rhag parhau.”

 Cynghrair newydd i lobïo dros gymunedau Cymraeg eu hiaith

Bydd Cymdeithas yr Iaith yn lansio cynghrair newydd yfory i lobïo dros gwell bargen i gymunedau Cymraeg eu hiaith.

Yn ddiweddar wrth iddi ddathlu ei hanner canrif mewn bodolaeth, mae’r Gymdeithas wedi ei beirniadu am fethu â gwneud digon i lobïo gwleidyddion yn yr hinsawdd ddatganoledig ers 1999.

 Ond yfory fe fyddan nhw’n lansio’r gynghrair lobïo newydd, a hynny ym mhentref y Parc ger y Bala lle mae ffrae chwyrn wedi bod dros benderfyniad Cyngor Gwynedd i gau’r ysgol gynradd sy’n addysgu tua 20 o blant.

 Bydd ‘Rali Safwn yn y Bwlch’ am un y p’nawn gyda neges o gefnogaeth gan Hogia’r Wyddfa.

Wedyn bydd pawb yn gwylio gêm Cymru v Ffrainc ar sgrîn fawr, a gyda’r nos fe fydd enillydd Cân i Gymru Gai Toms yn perfformio gyda thalentau lleol.

Taith faith y Gymdeithas

Bydd y Gymdeithas yn teithio ar draws Cymru eleni i dynnu sylw at sefyllfa’r Gymraeg ar lefel gymunedol ac i annog cymunedau eraill i ddod yn rhan o’r gynghrair.

Mae disgwyl i ganlyniadau’r Cyfrifiad ddangos dirywiad pellach yn y nifer o siaradwyr Cymraeg yn y Cymunedau traddodiadol lle mae’r iaith wedi bod ar ei chryfaf.

”Os yw’r iaith yn mynd i barhau fel iaith ffyniannus a hyfyw, mae rhaid i ni amddiffyn a thyfu’r nifer o gymunedau Cymraeg ei hiaith,” meddai Hywel Griffiths, llefarydd cymunedau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.