Owain Mon Roberts
Dywed Heddlu Dyfed Powys bod na bryder cynyddol am ddyn 36 oed sydd wedi bod ar goll ers rhai dyddiau.

Cafodd Owain Môn Roberts  o Aberteifi, ei weld y tro diwethaf ar fore dydd Sadwrn, 10 Mawrth yn ardal Mwnt.

Mae Owain Roberts yn dechnegydd sain gyda Theatr Mwldan yn Aberteifi a dywed ei deulu eu bod yn poeni’n fawr iawn am ei ddiogelwch.

Mae gwallt Owain yn llwydo, yn arbennig ar yr ochrau. Mae ei ddant chwith blaen wedi torri. Ac mae ganddo lygaid llwydlas. Mae’n bosibl bod barf yn dechrau tyfu gydag ef erbyn hyn.

Y tro diwethaf iddo gael ei weld, roedd yn gwisgo top â gwddf crwn iddo, ac roedd y gardigan a wisgai drosto’n un trwchus gyda sip ar y blaen a hwd wedi’i gwiltio.

Roedd yn cario bag llwyd gyda phwythau oren iddo. Bag ysgwydd ydoedd wedi’i wneud o ddefnydd cynfas, ac mae’n bosibl iawn mai ar draws ffrynt ei gorff y gwisgai’r bag.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd âg unrhyw wybodaeth i gysylltu â gorsaf heddlu Aberteifi ar 101