Bydd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn lansio’i weledigaeth ar gyfer ynni Cymru heddiw, gyda sylw arbennig i greu diwydiant ynni cryf yng Nghymru.

Mae’r Prif Weinidog yn mynd i fod yn amlinellu ei ymrwymiad i wneud y gorau o’r ynni naturiol, adnewyddol sydd ar gael yng Nghymru, a’i ddefnyddio i gefnogi busnesau a chreu swyddi yn lleol.

Cyn lansio gweledigaeth ‘Ynni Cymru’ heddiw dywedodd Carwyn Jones y gallai maes ynni gynnig cyfle arbennig i Gymru.

“Mae ynni yn faes sy’n diffinio ein cenhedlaeth; mae’n faes yr wyf am inni arwain arno fel Llywodraeth,” meddai.

Buddsoddi

Mae’r Prif Weinidog yn dweud ei fod eisiau gweld pob ceiniog sy’n cael ei fuddsoddi mewn ynni yn cyfrannu at economi hirdymor Cymru.

Mae hefyd yn dweud ei fod eisiau gwella’r broses gynllunio a chydsynio.

Un o’r pethau mae’n gobeithio’i wneud trwy sefydlu gwell seilwaith ynni yng Nghymru yw sicrhau bod y prosiectau ynni yn rai proffidiol ac effeithlon, fel rhaglen Ynys Ynni Môn, sy’n cynnwys gorsaf bŵer niwclear newydd.

Mae’r Prif Weinidog hefyd yn dweud y gallai Llywodraeth Cymru helpu busnesau i gystadlu am gytundebau ynni, a sicrhau bod cymunedau yn gallu cael cyngor, arbenigedd ac arian er mwyn gallu defnyddio ynni adnewyddadwy.

‘Economi carbon isel’

“Ein nod yw creu economi carbon isel sy’n ein harwain i ddyfodol llewyrchus yng Nghymru,” meddai Carwyn Jones heddiw.

“Ar bob cam o’r ffordd, mae’n rhaid inni ofalu bod Cymru yn manteisio i’r eithaf ar y potensial o ran swyddi a datblygiadau economaidd hirdymor. Mae hwn yn amcan arbennig o bwysig yn yr hinsawdd economaidd bresennol,” meddai.

“Does dim dwywaith bod newid hinsawdd a diogelu ffynonellau ynni yn mynd i fod yn her. Ond mae’r heriau hyn hefyd yn gyfle euraid i Gymru i arwain y ffordd i greu economi carbon isel a gosod y sylfeini ar gyfer dyfodol gwell a gwneud y gorau o’r manteision hirdymor i Gymru bob cam o’r ffordd.”

‘Cyfle i ddiwydiant newydd dyfu’

Dywedodd y Prif Weinidog ei fod eisiau gweld y sectorau ynni adnewyddol a charbon isel yng Nghymru yn tyfu’n aruthrol dros y blynyddoedd nesaf, gyda’r gobaith o dynnu swyddi newydd i Gymru ar draws y ffin.

“Y llynedd, roedd y sectorau ynni adnewyddadwy a charbon isel yn cynnal 29,000 o swyddi yng Nghymru. Dwi am weld y ffigwr hwn yn cynyddu a gweld cymaint â phosibl o’r 250,000 o swyddi ychwanegol sy’n cael eu rhagweld yn sector ynni’r DU yn dod i Gymru yn y blynyddoedd nesaf,” meddai.

“Mae busnes yn hanfodol i’n hynni ac i’n dyfodol economaidd. Ein nod fydd adeiladu ar enw da Cymru – a gweithio mewn partneriaeth â diwydiant – i sicrhau ein bod nid yn unig yn croesawu cydweithio, ond ein bod yn cael ein cydnabod unwaith yn rhagor fel canolfan ynni byd-eang,” meddai.