Edwina Hart
Mae Gweinidog Busnes Cymru Edwina Hart wedi cyhoeddi cynlluniau i fuddsoddi £100 miliwn ym maes technoleg feddygol a fferyllol heddiw.

Mae’r maes yn cyflogi dros 15,000 o bobl yng Nghymru a heddiw cyhoeddodd Edwina Hart fod cronfa wedi’i sefydlu i fuddsoddi ym musnesau gwyddorau bywyd Cymru. Bydd yr arian yn dod o ffynonellau preifat a chyhoeddus, gyda Llywodraeth Cymru’n rhoi £25 miliwn yn syth.

“Y buddsoddiad hwn yw un o’r ymrwymiadau mwyaf o’i fath mewn cronfa o’r math hwn,” meddai Edwina Hart.

“Mae’n ymrwymiad sylweddol o ystyried yr hinsawdd economaidd bresennol, ac mae hefyd yn adlewyrchu ein hyder yn y ffaith fod gan Gymru fanteision sylweddol ym maes gwyddorau bywyd, a’n bwriad ni i fwrw mlaen i ddenu buddsoddwyr.”

Un o’r bobl a oedd yn bresennol yn lansiad y cynllun yng nghynhadledd BioCymru yng Nghaerdydd oedd y dyn busnes Syr Chris Evans, sydd wedi’i benodi gan Lywodraeth Cymru yn ben ar banel fydd yn cefnogi’r diwydiant.

Dywedodd Syr Chris Evans: “Yn ei grynswth, pan fydd y pethau hyn yn dod ynghyd fe welwn ni Gymru’n dringo ar y lefel ryngwladol dros y blynyddoedd nesaf.”

Mae tua 330 o gwmnïau gwyddorau bywyd yng Nghymru, sy’n cyfrannu £1.3 biliwn i’r economi yng Nghymru.

Dywed Llywodraeth y Cynulliad fod y gronfa newydd hon yn ategu’r strategaeth wyddonol gwerth £50 miliwn a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog Carwyn Jones ddydd Llun.