Bydd deiseb yn cael ei chyflwyno i’r Cynulliad Cenedlaethol heddiw yn galw am gyfwlyno mwy o doiledau i fenywod ar draws Cymru.

Mae’r ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i newid y rheolau ar ddarparu toiledau i fenywod mewn mannau cyhoeddus.

Mae’r ddeiseb eisiau i Lywodraeth Cymru ei gwneud hi’n “ofynnol i gynyddu’r ddarpariaeth o doiledau i ferched mewn lleoliadau adloniant cyhoeddus” yng Nghymru.

Mae 27 enw ar y ddeiseb erbyn hyn, gan gynnwys y prif-ddeisebydd Simon Williams-Jones.

Mae e’n gofyn am reolau fyddai’n gwella darpariaeth toiledau i fenwyod yng Nghymru ym mhob adeilad adloniant cyhoeddus.

“Dwi’n gofyn i’r pwyllgor ystyried rhaglen fydd yn caniatau lleoliadau cyhoeddus i gael eu gwella dros gyfnod o amser. Gall hyn gynnwys cymhellion, achrediad, nawdd ac, yn y pen draw, dyddiad terfynol er mwyn cyflawni’r gwaith,” meddai.

Adnoddau ar gyfer yr anabl

Mae Simon Jones-Williams hefyd yn dweud y dylid defnyddio’r cyfle i ddiweddaru adeiladau gyda thoiledau i fenywod i sicrhau bod hen adeiladau hefyd yn darparu adnoddau ar gyfer yr anabl.

“Byddwn i’n dadlau bod darparu cyfleusterau cyfartal i ddynion a menywod yn fater o gydraddoldeb, a bod yr un peth yn wir am ddarparu adnoddau gwell i bobol anabl.

“Byddai’r prosiect hwn yn cynrychioli gwelliant mawr yn seilwaith Cymru ac yn safon bywyd rhan helaeth o’r boblogaeth,” meddai.

“Nawr fod gan Gymru bwerau deddfu, gallai Cymru fod yn arwain ar y mater cyffredin iawn hwn o gydraddoldeb.”