Gai Toms
Mae enillydd Cân i Gymru eleni, Gai Toms,  wedi dweud bod angen newid fformat y rhaglen i adlewyrchu cerddoriaeth gyfoes a diwylliant Cymreig yn well.

Mewn darn blog ar ei wefan, mae’n dweud bod fformiwla arbennig i ennill y gystadleuaeth deledu flynyddol ac yn gofyn a ydy’r fformat presennol yn gynaliadwy.

Wrth siarad â Golwg360 heddiw, mae Gai Toms wedi atgyfnerthu ei sylwadau gan ddweud ei fod yn gobeithio y gallai hynny helpu newid rhai o egwyddorion y rhaglen.

“Dwi ddim yn dweud hyn efo unrhyw falais – dwi’n gwerthfawrogi’r rhaglen a’r gwaith cynhyrchu gan gwmni Avanti” meddai heddiw.

“Rŵan fy mod i wedi cystadlu tair blynedd yn olynol, ac wedi ennill dwi’n teimlo fel fy mod i’n gallu cymryd cam yn ôl a gweld pethau mewn golau gwahanol.

“Rhywsut tydi’r holl beth ddim yn dal dŵr nac yn gerddorol gynaliadwy.”

Yn ôl y cerddor o Feirionydd mae angen newidiadau radical i fformat Cân i Gymru er mwyn adlewyrchu’r sin gerddoriaeth gyfoes a diwylliant Cymreig yn well.

Gwobrwyo cerddorion cynhyrchiol

Mae’n credu bod angen i’r rhaglen fod yn fwy o ddathliad o’r hyn sy’n digwydd, gan roi cyfle gwell i gerddorion cynhyrchiol.

“Ar hyn o bryd mae S4C yn rhoi’r pres yma ar y silff efo’r potensial iddo gael ei wastraffu” meddai.

“Mae o’n rhoi cyfle i bobol sydd efo dim bwriad i barhau i fod yn gynhyrchiol yn y sin.

“Dwi’n falch bod enillwyr y tair blynedd diwethaf yn rai sydd yn buddsoddi’r arian yn ôl yn y gerddoriaeth, ond fe allai rhywun wario’r £7,500 yna ar wyliau neu gar newydd os ydyn nhw isho.

“Pam ddim rhoi’r wobr at gynnal seremoni wobrwyo neu rywbeth felly? Wedyn fysa ti’n cael rhaglen deledu dda ac yn cael dathliad o’r artistiaid cynhyrchiol o’r flwyddyn a fu.

“Ar hyn o bryd mae’r fformat yn rong a’r egwyddorion yn rong.”

‘Gormod o bling’

Yn ôl Gai Toms mae’r gystadleuaeth yn un enghraifft o ble mae ymdriniaeth S4C â cherddoriaeth a diwylliant yn anghywir.

Dywed bod “gormod o bling” ar S4C ar hyn o bryd a bod y sianel yn rhoi gormod o sylw i bobol sydd wedi cael ychydig bach o lwyddiant y tu hwnt i Gymru.

“Mae gormod o bling yn gyffredinol ar S4C. Mae isho mynd nôl i ryw ddyluniad Methodistaidd syml… dwn im. Bysa llai o gyllideb a mwy o ddychymyg yn gwneud rhaglenni gwell dwi’n meddwl.

“Yn gerddorol ac yn ddiwylliannol ydy S4C wir yn adlewyrchu ein cenedl ni? Os ydy S4C yn ein hadlewyrchu ni fel cenedl yna ydy hynny’n golygu bod ein cenedl ni wrth ein bodd efo’r bling a’r C-list celebs yma?

“Mae gen ti artistiaid fel fi, Y Niwl, Cowbois Rhos Botwnnog ac eraill sy’n gigio trwy’r amser ac yn gweithio’n galed ond lle mae’r straeon a’r sylw i’r pethau yma?

“Safon a dychymyg yn hytrach na budget a bling” sydd ei angen yn ôl Gai Toms.

Fformiwla hud

Yn y darn blog mae cyn aelod y grŵp Anweledig wedi cyfaddef bod fformiwla benodol os yw rhywun am ennill Cân i Gymru.

Yn y blog dywed ei fod wedi ceisio mynd yn groes i’r graen gyda’i ymdrechion i ennill yn y gorffennol ond ei fod wedi gorfod troi at y fformiwla eleni a bod hynny wedi gweithio.

“Mae ‘na sawl elfen i’r fformiwla” eglura wrth Golwg360.

“Yn gyntaf mae’n rhaid i ti apelio at ystod eang o gynulleidfa, felly mae’n rhaid iddi fod yn gân ganol y ffordd, universal ac eithaf saff.

“Rydan ni wedi canfasio eleni trwy siarad efo lot o bobol a gofyn iddyn nhw bleidleisio, rhoi posteri fyny a ballu – dwi di meddwl amdano fo fel ‘lecsiwn bron iawn.”

“Mae’r cydweithio’n bwysig hefyd – nath Phil [Lee Jones] a minnau gydweithio eleni, ac er bod ni efo’r un criw o ffrindiau rydan ni’n adnabod lot o bobol wahanol felly ti’n gallu taflu’r rhwyd yn ehangach.”

“Fysa chdi’n gallu ychwanegu un elfen arall sef cael rhywun ifanc, golygus, sydd mewn côr amlwg i ganu … ond roedd hynny un cam yn ormod i mi a do’n i ddim isho croesi’r ffin.”

Buddsoddi

Mae’r cerddor yn bwriadu defnyddio’r enillion i helpu gyda’i brosiect o ddatblygu stiwdio recordio mewn hen gapel yn Nhanygrisiau.

“Ro’n i wir angen y pres i allu symud ymlaen – mae’n freuddwyd oes gennai i sefydlu stiwdio” meddai.

“Mae’n [y wobr ariannol] golygu y gallai fod yn fwy cynhyrchiol a helpu cerddorion ifanc i recordio.

“Dwi wedi gorfod gwneud lot o jobs amrywiol dros y blynyddoedd diwethaf jyst i gyfro costau byw oherwydd y sefyllfa PRS, er bod pethau’n gwella efo’r trafodaethau ynglŷn â hynny.”