Warren Gatland, hyfforddwr tîm Cymru
Mae hyfforddwr tîm rygbi Cymru, Warren Gatland, wedi beirniadu’r dyfarnwr George Clancy am y ffordd yr oedd yn rheoli’r gêm ryngwladol rhwng Cymru a’r Eidal ddoe.
Mae hyn er gwaetha’r ffaith i Gymru ennill buddugoliaeth rwydd o 24-3 yn erbyn yr ymwelwyr gan gadw’r freuddwyd yn fwy am ennill y gamp lawn yn erbyn Ffrainc ddydd Sadwrn nesaf.
“Roedd yn rhwystredig i ni oherwydd nad oedd y gêm yn cael llifo fel y dylai,” meddai Warren Gatland ar ôl y gêm “Doedden ni ddim yn cael pêl gyflym ac roedd y chwalfeydd yn dipyn o lanast.
“Fe wnawn ni gymryd y fuddugoliaeth ond petai tîm yn cael cymaint o feddiant a thiriogaeth ac yn colli 13-12 trwy giciau cosb mae’n rhaid inni deimlo’n rhwystredig am hyn. Doedden ni ddim yn cael y momentwm i fynd.
“Mae angen cael y neges i ddyfarnwyr – gadewch inni fod yn gadarnhaol tuag at y tîm sy’n ceisio chwarae’n gadarnhaol a gadewch inni eu gwobrwyo nhw am hynny. Dw i ddim yn meddwl fod yn rhaid i bob dim fod 100 y cant i lythyren y gyfraith oherwydd mae cymaint o le i ddehongli. Dyna pam yr ydw i’n bur rhwystredig yn bersonol oherwydd roedd yn anodd inni.”