Lisa Gwilym
Lisa Gwilym yw DJ gora’ Cymru, yn ôl darllenwyr cylchgrawn pop Cymraeg Y Selar.
Mae’r BBC wedi penderfynu rhoi’r fwyell i’w rhaglen nosweithiol ar Radio Cymru, er bod pôl piniwn y cylchgrawn i weld yn dangos ei bod yn boblogaidd ar lawr gwlad.
Caeodd y pôl ym mis Chwefror, cyn bod sôn bod rhaglen nosweithiol Lisa Gwilym yn dod i ben.
Roedd dros 150 wedi pleidleisio, meddai golygydd y cylchgrawn Owain Schiavone.
Esboniad y BBC
Meddai’r BBC mewn datganiad y prynhawn yma: “Fel rhan o’r newidiadau diweddar i amserlen BBC Radio Cymru a’r buddsoddiad yn y rhaglenni oriau brig, bydd rhaglen ddyddiol Lisa Gwilym yn dod i ben yn yr hydref. Mae’r orsaf yn y broses o benodi Golygydd Rhaglenni Cyffredinol a phan fydd y person hwnnw yn y swydd, bydd yr amserlen lawn yn cael ei chyhoeddi ynghyd a manylion gwasanaeth C2 a’i gyflwynwyr.”
Neithiwr roedd y DJ, a fu’n cyflwyno Uned 5 a’r Sioe Gelf ar S4C, yn rhy sâl i gyflwyno ei rhaglen, ond mi fydd hi’n ôl heno gyda sesiwn gan Mr Huw.
Yr enillwyr eraill
Sengl Orau: ‘Indigo’ – Creision Hud
EP gorau: Swimming Limbs – Jen Jeniro
Cân Orau: ‘Wyt ti’n nabod Mr Pei?’ – Y Bandana
Hyrwyddwr Gorau : Guto Brychan
Clawr CD Gorau: Gathering Dusk – Huw M
Band Newydd Gorau: Sŵnami
Artist Unigol Gorau: Al Lewis
Digwyddiad Byw Gorau: Maes B, Eisteddfod Wrecsam
Band Gorau: Y Bandana
Albwm y Flwyddyn: Troi a Throsi – Yr Ods