Kirsty Davies
Mae cefnogi annibyniaeth economaidd i fenywod mor bwysig ag unrhyw ffactor arall i ddyfodol economaidd Cymru, meddai grŵp ymgyrchu.
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae Cadeirydd Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru’n dweud bod annibyniaeth economaidd hefyd yn allweddol er mwyn datrys problemau fel trais hefyd.
“Mae trais yn erbyn menywod yn gysylltiedig â ffactorau economaidd ac annibyniaeth economaidd i fenywod,” meddai Kirsty Davies mewn erthygl ar wefan y Sefydliad Materion Cymreig.
“Mae’r berthynas ystadegol rhwng cydraddoldeb, tlodi, llwyddiant addysgol a chyfleoedd gwaith wedi ei hen brofi,” meddai.
“Mae cael menywod i mewn i fywyd cyhoeddus yn dibynnu ar ferched sy’n hyderus ac sydd â’r sgiliau a’r wybodaeth i wynebu’r her.”