Anthony Kelly
Mae mam wedi talu teyrnged i’w mab a fu farw ddydd Llun yn dilyn gwrthdrawiad ffordd ger Y Rhyl ddydd Sadwrn.

Cafodd  Anthony Kelly, 18,  o Brestatyn anafiadau difrifol yn dilyn y gwrthdrawiad ar Ffordd Arfordir A548 Y Rhyl.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan ond bu farw yn yr ysbyty ddydd Llun, 5 Mawrth.

Rhoi organau

Bu  ei fam Becky yn rhoi teyrnged i’w mab a oedd hefyd yn “frawd, cefnder, nai ac yn wŷr annwyl,” sydd wedi rhoi ei organau i eraill.

“Dymuniad Anthony petai unrhyw beth yn digwydd iddo oedd i gynifer o’i organau â phosibl fynd i helpu pobl eraill, er gwaethaf pa mor boenus neu anodd oedd y penderfyniad,” meddai ei fam.

“Os oes briwsionyn o gysur yn ystod yr amser anodd hwn, gwybod fod ei ddymuniad wedi’i gyflawni yw hwnnw”

“Hoffwn annog pawb i fod yn rhoddwr organau er mwyn iddyn nhw, fel Anthony, allu helpu cynifer o bobl â phosib petai nhw’n ddigon anffodus, fel yr ydym ni wedi bod, i golli rhywun maent yn eu caru mewn amgylchiadau mor drasig.”

Mae Heddlu’r Gogledd wedi apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu ag Uned Plismona’r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru yn Llanelwy drwy ffonio 101.