Mae cwmni yswiriant Admiral, sydd a’i bencadlys yng Nghaerdydd, wedi cyhoeddi cynnydd o 13% yn ei elw heddiw.

Ond dywed y cwmni, sydd â 2.9 miliwn o gwsmeriaid, ei bod wedi bod yn “flwyddyn siomedig” oherwydd costau iawndal yn ymwneud ag achosion o niwed corfforol.

Roedd cyfranddaliadau Admiral wedi gostwng ym mis Tachwedd ar ôl i’r cwmni rybuddio y byddai’r canlyniadau ar gyfer 2011 yn siomedig.

Fe gyhoeddodd Admiral, sy’n berchen Elephant and Bell a’r safle Confused.com, elw o £299 miliwn heddiw ac mae’r prif weithredwr Henry Engelhardt wedi cyfaddef bod y ffigwr yn llai na’r disgwyl.

Cafodd hyn ei achosi gan nifer yr achosion am iawndal yn 2009 a 2010.

Dywedodd Henry Engelhardt: “Mae hi wedi body n flwyddyn siomedig. Nid am ei bod yn flwyddyn wael, ond roedd mwy o ddisgwyliadau.”

Ond ychwanegodd bod y busnes yn gadarn ac y byddai’r cwmni yn ehangu yn 2012.

Fe fydd tua 5,500 o staff Admiral yn derbyn cyfranddaliadau gwerth £3,000 am 2011.