Mae Cyngor Sir Caerdydd wedi datgan y byddan nhw’n cydweithio gyda Heddlu De Cymru yn dilyn marwolaeth gwraig 96 oed mewn cartref gofal preifat ym Mhontcanna, Caerdydd ddoe.
Bu farw’r wraig yn dilyn digwyddiad yng nghartref gofal Tŷ Pontcanna ar Ffordd Llandaf, Treganna fore Llun. Bu farw’r wraig yn y fan a’r lle a chafodd aelod o staff hefyd eu hanafu yn y digwyddiad.
Mae’r heddlu a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn cynnal ymchwiliad i’w marwolaeth.
‘Digwyddiad trasig’
Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor Sir: “Fel yr awdurdod gorfodi, mae swyddogion Iechyd yr Amgylchedd o adran Gwarchod y Cyhoedd yn cydweithio gyda’r heddlu ar hyn o bryd mewn perthynas â digwyddiad angheuol mewn cartref gofal preifat yn y ddinas.
“Mae’r Cyngor Sir wedi bod mewn cyswllt gyda’r cartref i gynnig unrhyw help y bo angen wrth ddelio â’r digwyddiad trasig yma. Mae’r cartref mewn cyswllt â pherthnasau am y digwyddiad a byddwn ni’n cysylltu â’r perthnasau i gyd o fewn da bryd.”