Bydd sianel deledu newydd yn cael ei lansio yn ystod yr haf eleni – a honno’n arbennig ar gyfer cymuned leol yng ngorllewin Cymru.

Mae cwmni MegaGroup Pembrokeshire wedi cyhoeddi heddiw y byddan nhw’n lansio sianel deledu arbennig yn Sir Benfro cyn hir, a hynny i gyd-fynd â’u busnes yn y wasg brint lleol.

Mae’r cwmni’n dweud eu bod nhw wedi crynhoi grŵp o arbenigwyr darlledu ynghyd ar gyfer y fenter newydd hon, er mwyn creu sianel deledu sy’n arbenigo mewn materion sy’n berthnasol i Sir Benfro.

Wrth siarad â Golwg 360 heddiw, dywedodd sylfaenydd y cwmni, Thomas Sinclair, ei fod yn gobeithio creu gwasanaeth fydd yn “adlewyrchu’r amrywiaeth o ddiddordebau a chefndiroedd ar draws y sir.” Ac mae’n dweud y bydd hynny’n cynnwys creu rhaglenni Cymraeg.

Mae’r cwmni, sydd yn bwriadu sefydlu eu pencadlys darlledu yn Aberdaugleddau, yn addo creu “canolbwynt i chwyldro cyfryngau’r 21ain ganrif” mewn tref sydd wedi profi effeithiau’r dirwasgiad.

Wrth drafod y cynllun newydd, dywedodd Thomas Sinclair fod “pob un o’n 23 aelod o staff yn rhannu’r ffydd sydd gen i yn ein sir, ac eisiau gweld cyfleon a swyddi newydd yma.”

Y cynllun

Mae Thomas Sinclair yn swnio’n obeithiol iawn am ddyfodol y fenter, er gwaetha’r sefyllfa economaidd presennol.

“Ry’n ni eisoes mewn cysylltiad gyda dros 3,000 o fusnesau lleol trwy’n cylchgronau ni, sef Pembrokeshire Best, Your Pembrokeshire a Little Gem, ac yn sgil trafodaethau gyda nhw, o ran hysbysebu ac ati, y daethon ni i’r casgliad bod creu sianel deledu leol yn fenter gwerth buddsoddi ynddi.”

Mae hefyd yn dweud bod digon o sgiliau ar gyfer y diwydiant i’w cael yn lleol, a bod angen gwneud y mwya’ o’r rheiny cyn eu colli.

“Mae Coleg Sir Benfro yn darparu ystod o gyrsiau cyfryngau, ond mae bob un o’n gweithwyr hyfforddedig yn cael eu gorfodi i symud i’r dwyrain ar hyd coridor yr M4 i chwilio am brofiad a gwaith,” meddai.

“Rydw i wedi penderfynu gwneud safiad, er mwyn darparu mwy o swyddi i bobol leol a chreu’r sianel sydd ei hangen ar ein sir, a sianel y gall ein sir fod yn falch ohoni.”

Mae’r cwmni eisoes wedi buddsoddi dros £30,000 mewn camerau, goleuadau, offer golygu, cyfrifiaduron a meddalwedd, ac maen nhw’n dweud eu bod nhw ar fin gorffen eu stiwdio darlledu.

Bydd y rhaglenni lleol yn cael eu ffilmio o’u stiwdio yn Aberdaugleddau, ac ar leoliad ar draws y sir. Y syniad cychwynnol yw y bydd y deunydd wedyn yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd, ar sianel Pembrokeshire TV.

Mae’r prosiect eisoes wedi denu cefnogaeth gan sefydliadau lleol fel Theatr Torch, Theatr Mwldan, yn ogystal â chefnogaeth Aadrman Animations o Fryste – a fu’n gyfrifol am greu Wallace and Gromit.

Yn ôl Thomas Sinclair, mae eu cefnogwyr, partneriaid, gwirfoddolwyr a staff “i gyd yn gweld yr angen am wasanaeth teledu lleol,” ac mae’n dweud y bydd y gwasanaeth ar gael o haf 2012 ymlaen.