Rhodri Ogwen a Emma Walford
Roedd mam i un o brif ddigrifwyr Cymru wedi ffonio rhifyn cyntaf y rhaglen newydd Heno ar S4C i gwyno am ei fod yn “ddilornus” i’w mab.
Yn y rhaglen ar Fawrth 1, roedd Gary Slaymaker wedi ymddangos ar y rhaglen ar glip fideo o faes awyr ar y ffordd i Doronto, Canada i wneud sioe stand-yp yn noson Gŵyl Ddewi Cymdeithas Gymreig Toronto, Canada, yng nghwmni dau ddiddanwr arall.
Cyn y clip, fe gyflwynodd Rhodri Ogwen y tri, trwy gyfeirio at draddodiad cymdeithasau i ofyn i ddiddanwyr fod yn westeion.
“Mae rhai’n mynd am bobol safonol fel Roy Noble a finne,” meddai, gan edrych yn smala ar ei gyd-gyflwynydd Emma Walford.
“Mae yna gymdeithas yn cael y short-straw weithiau, y gwelltyn bach byr. A’r pwr dabs sy’n ei gael e ‘leni yw Cymdeithas Gymraeg yn Toronto. Eu gwestai Gŵyl Ddewi nhw yw Daniel Glyn, Gary Slaymaker a Phil Evans.”
‘Wedi gwylltio mam’
“Ro’n i bach yn annoyed,” meddai Gary Slaymaker. “O’n i’n gwybod mai jôc oedd e, ond mae yna ffordd o ddweud jôc. Ddaeth e ddim drosodd cystal falle ag y byddai Rhodri wedi’i ddymuno! Mi wnaeth e wylltio Mam a lot o’i ffrindiau hi mae’n debyg. Throwaway oedd hi fod, ond wnaeth hi ddim gweithio ar y target audience falle.”
Roedd y tri ar eu ffordd i gyflwyno eu sioe stand-yp “The Dragon Has Three Tongues” nos Sadwrn, Mawrth 3. Maen nhw hefyd yn ei pherfformio yn y Gymraeg o dan yr enw “Tri Chymro i Gynnig.”
“O’n i yn bach yn annoyed, achos mae’r tri ohonon ni wedi gweithio’n galed ar y showcase yma,” meddai’r digrifwr o Lanbedr Pont Steffan, “i’w gael e wedi’i daflu bant fel’na – o’n i’n meddwl, wel, hang on, nawr. Ry’n ni wedi llwyddo yn rhyngwladol yn fwy na mae Tinopolis wedi.”
Bydd “Tri Chymro i Gynnig” yn perfformio yng Nghlwb Rygbi Crymych nos Wener, Mawrth 23.