Nick Clegg
Fe fydd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg, yn mynnu eu bod nhw’n rhoi cymorth go iawn i bobol Cymru yn ystod cyfnod anodd.
Wrth siarad yng nghynhadledd wanwyn ei blaid yng Nghaerdydd heddiw, bydd Nick Clegg yn pwysleisio bod penderfyniad ei blaid i ymuno â clymblaid San Steffan wedi bod o fudd i weithwyr.
“Rydyn ni’n dod allan o argyfwng, trawiad ar y galon economaidd, a does yna ddim gwialen hud a fydd yn trwsio popeth dros nos,” meddai.
“Ond wrth i ni adeiladu economi newydd o’r malurion, fe fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn y glymblaid yn cynnig cymorth ymarferol, go iawn ar adeg anodd.
“Dyna pam ein bod ni wedi penderfynu torri trethi. Diolch i’r Democratiaid Rhyddfrydol rydyn ni wedi rhoi £200 yn ôl yn eich pocedi y llynedd, ac £130 ychwanegol o fis nesaf ymlaen.
“Ac rydyn ni eisiau mynd ymhellach ynghynt, gan godi miliynau o’r gweithwyr mwyaf tlawd allan o dalu trethi yn gyfan gwbl a rhoi £60 yn ôl yn eich pocedi bob mis.
“Mae hynny’n golygu na fydd 200,000 o weithwyr Cymru yn talu unrhyw drethi o gwbl, a 800,000 o weithwyr Cymru yn gweld £60 yn ychwanegol yn eu cyflogau bob mis.
“Mae yna filiwn o bobol yng Nghymru yn gyfoethocach diolch i’r Democratiaid Rhyddfrydol. Dyna fwyafrif y bobol sydd mewn gwaith yn y genedl gyfan.”