Andrew RT Davies
Blwyddyn wedi’r refferendwm ar ragor o ddatganoli i’r Cynulliad, mae Llywodraeth Cymru wedi eu beirniadu am beidio â gwneud defnydd o’u grymoedd newydd.

Flwyddyn yn ôl i heddiw, ar 3 Mawrth 2011, pleidleisiodd Cymru o 63% i 36% o blaid cynyddu pwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol. Dim ond un sir, Mynwy, bleidleisiodd yn erbyn.

Ond dywedodd arweinydd yr wrthblaid, Andrew RT Davies, nad oedd unrhyw beth o bwys wedi newid yn y Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd.

“Roedd canlyniadau’r refferendwm y llynedd yn addo oes newydd i wleidyddiaeth Cymru,” meddai. “Roedd gan ACau bellach y grymoedd oedd eu hangen i fwrw ymlaen â’r gwaith, heb unrhyw esgusion dros beidio â gwneud hynny.

“Fe fydd cefnogwyr pleidlais ‘Ie’ yn siomedig iawn nad yw’r Llywodraeth wedi llwyddo i greu’r un ddeddf Gymreig gan ddefnyddio’r grymoedd newydd.

“Mae Llafur mewn perygl o fradychu ffydd pleidleiswyr drwy fethu â chreu unrhyw ddeddfau Cymreig.

“Mae eu tindroi yn dal Cymru’n ôl. Mae angen iddyn nhw roi’r gorau i gwyno a beio pobol eraill a dechrau defnyddio’r grymoedd sydd ganddyn nhw i wella’r economi a gwasanaethau cyhoeddus.

“Ceidwadwyr Cymru oedd yr unig blaid a oedd wedi sefyll yn yr etholiad y llynedd gan amlinellu’n benodol y deddfau newydd fyddai yn cael eu creu – cyfanswm o 11 oedd yn barod i gael eu cyflwyno.

“Roedden nhw’n mynd i’r afael â nifer o’r problemau sy’n wynebu Cymru heddiw. Roedd Fesur Menter fyddai wedi denu buddsoddiad i’n heconomi, Mesur Iechyd Cyhoeddus a fyddai wedi lleihau anghydraddoldebau iechyd, a Mesur Cymwysterau Addysgol a fyddai wedi cau’r bwlch rhwng safon ysgolion yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig.”