Mae’r Prif Weinidog wedi wfftio’r haeriad wnaed ganol wsos gan Elfyn Llwyd bod Aelodau Cynulliad o bob plaid yn diodde’ o ddiffyg gweledigaeth.
A hithau bron yn flwyddyn ers i bobl Cymru bledleisio o blaid cael mwy o bwerau yn y Cynulliad, dywedodd Aelod Seneddol Elfyn Llwyd nad oedd unrhyw syniadau gan y pleidiau beth i’w wneud gyda’r grymoedd deddfu newydd hyn.
Wrth siarad gyda’r Western Mail ddoe fe ddywedodd Elfyn Llwyd bod yna bryder y bydd popeth yn sefyll yn ei unfan yng ngwleidyddiaeth Cymru a bod dim o werth wedi ei basio ers yr etholiad mis Mai.
Ond nid yw Carwyn Jones am dderbyn y dehongliad dan sylw.
“Dw i ddim yn meddwl bod e wedi cymryd sylw o beth sydd yn digwydd,” meddai Prif Weinidog Cymru.
“Mae sawl mesur wedi cael ei ymgynghori arno nawr ac wrth gwrs bydd yna sawl mesur yn cael ei rhoi o flaen y Cynulliad y flwyddyn hyn. Ond mae’n bwysig os ydych chi mofyn creu deddfwriaeth iawn bod chi yn ymgynghori trwy papurau gwyn ac mae sawl un mas yna.”