Mae cyfarchion Dydd Gŵyl Dewi wedi cael eu gyrru i Gymru o’r Tŷ Gwyn heddiw, wrth i bobol ar draws Cymru ddathlu dydd ein nawddsant cenedlaethol.

Daeth y cyhoeddiad o’r Tŷ Gwyn gan Hilary Clinton – un sydd ei hun â chysylltiad agos â Chymru.

“Ar ran yr Arlywydd Obama a phobol ar draws y Deyrnas Unedig, fy mhleser i yw cael gyrru’r dymuniadau gorau i bobol Cymru wrth i chi ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ar 1 Mawrth,” meddai Hilary Clinton, Ysgrifennydd Tramor yr Unol Daleithiau.

Achau Cymreig

“Dyma gyfle i ailddatgan y dolenni cryf sy’n ein huno ni, ac i adlewyrchu ar gyfraniadau cyfoethog ac amrywiol pobol Cymru i America dros y canrifoedd.

“Roedd llawer o’n sylfaenwyr, gan gynnwys y cyn-Arlywyddion Thomas Jefferson a John Adam, yn hawlio achau Cymreig,” meddai.

“Heddiw, gall bron i ddwy filiwn o bobol yn yr Unol Daleithiau olrhain eu gwreiddiau yn ôl i Gymru. A dwi’n falch i ddweud fy mod i’n un ohonyn nhw.”

Mae achau Cymreig Hilary Clinton yn ymestyn yn ôl drwy ei thad yn bennaf, Hugh Ellsworth Rodham, oedd yn fab i Gymry, ond roedd achau Cymreig yn hanes teulu ei mam, Dorothy Emma Howell, hefyd.

Wrth ddymuno’n dda i’r dathliadau yng Nghymru heddiw, dywedodd Hilary Clinton ei bod hi’n “ymroddedig i gryfhau’r bartneriaeth rhyngom ni, wrth i ni gydweithio i adeiladu dyfodol mwy heddychlon a mwy ffyniannus i’n pobol ni gyd.”

Os ydych chi wrthi’n dathlu heddiw, anfonwch eich lluniau chi atom ni, ar gol@golwg.com ac fe wnawn ni eu cyhoeddi ar y wefan.