Cymru 1-0 Costa Rica

Colli fu hanes Cymru yng ngêm goffa Gary Speed yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fercher. Roedd gôl gynnar Joel Campell yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth haeddianol i’r ymwelwyr o Ganolbarth America ar noson anodd i bawb yn y stadiwm.

Cafodd teyrgedau lu eu rhoi i’r diweddar Garry Speed gan gerddorion ar ddechrau’r gêm, gan gyn chwaraewyr a chyfoedion iddo yn ystod yr egwyl a gan y cefnogwyr trwy gydol y noson. Roedd hi’n noson emosiynol  iawn i’r chwaraewyr ar y cae ac mae’n amlwg bod hynny wedi effeithio eu perfformiad.

Arbediad da

Er i Gymru fwynhau digon o’r meddiant methodd y tîm cartref a chreu fawr ddim o flaen gôl. Roedd Costa Rica ar y llaw arall yn edrych yn ddigon peryglus o gwmpas y cwrt cosbi a doedd fawr o syndod gweld Campell yn eu rhoi ar y blaen wedi dim ond saith munud yn dilyn cyd chwarae da rhyngddo ef a Brian Luiz ar ochr y cwrt cosbi.

Bu bron i Campell ychwanegu ail i’r ymwelwyr hanner ffordd trwy’r hanner ond gwnaeth Lewis Price yn y gôl i Gymru arbediad da.

Roedd Cymru ychydig bach gwell tuag at ddiwedd yr hanner a chafodd Steve Morison sawl cyfle â’i ben yn y chwarter awr olaf cyn yr egwyl. Roedd  y  ddau gyntaf yn wael ond tarodd y trydydd yn erbyn ochr isaf y trawst cyn adlamu yn ôl allan heb fynd dros y llinell yn ôl y dyfarnwr, Howard Webb.

Gwastraffodd Craig Bellamy gyfle da yn gynnar yn yr ail hanner a gorfododd Hal Robson-Kanu arbediad da gan Kaylor Navas hanner ffordd trwy’r ail gyfnod – yr unig gyfraniad o bwys y bu rhaid i gôl-geidwad yr ymwelwyr ei wneud trwy’r nos.

Nid y canlyniad oedd yn bwysig

Bu bron i Kenny Kunningham ddyblu mantais yr ymwelwyr chwarter awr o’r diwedd yn dilyn gwaith da ar ochr y cwrt cosbi ond er i’w ergyd guro Price cafodd ei atal gan y postyn.

Yr eilydd, Robert Earnshaw, oedd un o’r ychydig chwaraewyr mewn crys coch i ddangos ychydig o awch ac roedd yn anffodus i weld lluman y dyfarnwr cynorthwyol yn yr awyr wedi iddo rwydo yn hwyr yn y gêm.

1-0 i Gosta Rica y sgôr terfynol felly a pherfformiad siomedig iawn gan Gymru, ond nid y perfformiad na’r canlyniad oedd y peth pwysig mewn gwirionedd. Noson i gofio Gary Speed oedd hon a chafwyd teyrnged barchus iawn iddo gan bawb yn y Stadiwm a dylir rhoi clod i Gymdeithas Bêl Droed Cymru am drefnu’r cyfan.