Mae Clwb Pêl-droed Aberystwyth wedi penodi Tomi Morgan yn rheolwr ar ôl i Alan Morgan adael trwy gydsyniad â’r clwb.

Yn chwaraewr ac yn rheolwr profiadol, cafodd Tomi Morgan ei ddiswyddo fel  Rheolwr Caerfyrddin yn Rhagfyr 2011 ac awgrymodd na fyddai’n dychwelyd eto i reoli.

Ond heddiw cyhoeddodd Clwb Pel-droed Aberystwyth fod Tomi Morgan yn dychwelyd i Goedlan y Parc ar ôl i Alan Morgan adael ei swydd fel rheolwr.

Dywedodd Tomi Morgan wrth Golwg360: “Bydd hi’n her ond dwi’n edrych ymlaen yn fawr. Y flaenoriaeth ar y cychwyn o ystyried ein safle yn y gynghrair fydd aros lan.

“Chwaraeais i dros 500 o gemau yn fy ngyrfa, dwi’n grwtyn lleol a dyma un siawns arall i brofi fy hun ac i roi rhywbeth yn ôl i’r clwb.”