Leanne Wood
Mae grŵp dylanwadol o fewn Plaid Genedlaethol yr Alban wedi datgan ei gefnogaeth i Leanne Wood fel arweinydd nesaf Plaid Cymru.
Mae Grŵp Undebau Llafur yr SNP, sydd â chynrychiolaeth ar Bwyllgor Gweithredol y blaid Albanaidd, wedi cyhoeddi heddiw ei fod yn cefnogi cais Leanne Wood.
Dywedodd Malcolm Balfour, trefnydd y grŵp: “Yma’n yr Alban bu Grŵp Undebau Llafur yr SNP o gymorth enfawr i’r blaid dderbyn cefnogaeth undebau llafur.
“Rwy’n adnabod Leanne a chyn belled ag ydw i’n y cwestiwn, hi yw’r ymgeisydd gorau yn y gystadleuaeth. Gyda’i hegwyddorion asgell chwith, a chyda’r undebau llafur yn chwilio am bleidiau eraill i’w cefnogi yn hytrach na Llafur, Leanne sydd yn y sefyllfa orau i ddenu cefnogaeth yr undebau llafur.”
Undebau llafur
Mae Leanne Wood wedi croesawu’r gefnogaeth o’r Alban: “Yn yr Alban, maen nhw wedi chwalu’r chwedl mai Llafur yw’r blaid orau i gynrychioli gweithwyr. Gyda llawer o waith caled a dyfalbarhad, gall Plaid Cymru wneud yr un peth yma yng Nghymru.”
Mae Leanne Wood eisoes wedi derbyn cefnogaeth agored gan rai undebau llafur yng Nghymru. Yn ôl Mark Serwotka, Ysgrifennydd Cyffredinol undeb y PCS, “nid oes un gwleidydd yng Nghymru wedi bod yn gyfaill mor ddibynadwy i’n haelodau.”
Rhoddodd Undeb y frigâd dân rodd ariannol o £500 i ymgyrch arweinyddol Leanne Wood.
Bydd arweinydd newydd Plaid Cymru yn cael ei gyhoeddi ar 15 Fawrth. Y ddau ymgeisydd arall yw Elin Jones a Dafydd Elis-Thomas.
O’r tri ymgeisydd, Leanne Wood sydd fwyaf adnabyddus am ei hegwyddorion asgell chwith. Yn ôl gwefan y ferch o’r Rhondda, “Mae Leanne wedi ymrwymo i weithio dros gael Cymru sydd yn weriniaeth sosialaidd annibynnol”.