Bydd cymrodorion cyntaf y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cael eu hanrhydeddu heno, llai na blwyddyn ers sefydlu’r Coleg.

Heno, mewn seremoni yn Abertawe, bydd y Coleg Cenedlaethol yn cael eu cyfle cyntaf i gydnabod cyfraniad unigolion arbennig at addysg Gymraeg yng Nghymru, drwy eu hanrhydeddu â Chymrodoriaethau.

Bydd Dr Meredydd Evans, yr Athro Hazel Walford Davies, a’r Athro M Wynn Thomas yn derbyn y Cymrodoriaethau Er Anrhydedd cyntaf i’w rhoi gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

‘Eu gweledigaeth yn allweddol’

Yn ôl y Coleg, bydd y tri yn cael eu hanrhydeddu heno yn sgil eu cyfraniadau helaeth tuag at addysg cyfrwng Cymraeg yn ystod eu gyrfa.

“Mae cyfraniad Dr Meredydd Evans, yr Athro Hazel Walford Davies a’r Athro Wynn Thomas tuag at addysg uwch cyfrwng Cymraeg dros y blynyddoedd wedi bod yn amhrisiadwy ac fe fydd hi’n fraint cael bod yn rhan o’r dathliadau, ac i ddangos ein gwerthfawrogiad am eu gwaith diflino,” meddai Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg, yr Athro Merfyn Jones.

“Nid oes unrhyw amheuaeth fod gweledigaeth unigolion fel y rhain wedi bod yn allweddol yn yr ymdrech i sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac wrth i’r Coleg ddatblygu a thyfu yn ei flwyddyn gyntaf fel hyn mae’n amserol bod y tri yma’n derbyn Cymrodoriaeth Er Anrhydedd gan y Coleg,” meddai.

Ymhlith cyfraniadau’r Dr Meredydd Evans at astudiaethau cyfrwng Cymraeg yr oedd ei ran blaenllaw iawn yn y gwaith o sefydlu ymddiriedolaeth i gefnogi myfyrwyr sy’n astudio drwy’r Gymraeg ar gyrsiau’r Coleg.

‘Cydnabod gwaith pwysig’

Roedd yr Athro Hazel Walford Davies yn Gadeirydd ar Fwrdd Rheoli’r Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg rhwng 2006 a 2011, sydd bellach wedi ei ymgorffori yn y Coleg. Mae’r Coleg yn ei chydnabod am ei gwaith pwysig wrth sefydlu’r Coleg Cenedlaethol tra yn y swydd honno.

Roedd yr Athro M Wynn Thomas yn gadeirydd ar weithgor a sefydlwyd gan Brifysgol Cymru yn 2001 i ystyried cynlluniau at y dyfodol. Un o brif argymhellion y gweithgor oedd sefydlu cynllun ysgoloriaethau PhD i feithrin cenhedlaeth newydd o ddarlithwyr Cymraeg – mae nifer o’r rheiny bellach yng nghlwm a gwaith y Coleg Cenedlaethol.

Bydd y seremoni yn cael ei chynnal fel rhan o Gyfarfod Blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac yn ogystal â dathlu a nodi cyfraniad yr academyddion, bydd y Coleg yn trafod mwy am y gwaith a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn gyntaf, ac ystyried rhai o’i brif gynlluniau i’r dyfodol.