Y gwersyll tu allan i Gadeirlan Sant Paul
Mae protestwyr Occupy London wedi cael eu symud o’u gwersyll tu allan i Gadeirlan Sant Paul , mwy na phedwar mis ers i’w protest yno ddechrau.

Dywedodd Heddlu Dinas Llundain bod 20 o bobl wedi cael eu harestio hyd yn hyn mewn ymgyrch sydd wedi bod yn “heddychlon ar y cyfan.”

Fe gyrhaeddodd beiliaid a’r heddlu y safle yn ystod oriau mân y bore ar ôl i’r Llys Apel wrthod caniatad i Occupy London i herio’r gorchymyn i’w symud o’r safle.

Mewn datganiad dywedodd Corfforaeth Dinas Llundain eu bod yn gresynu gorfod cymryd y camau yma ond bod y Llys Apel wedi cadarnhau’r gorchymyn.

Wrth ganiatau gorchymyn i symud y protestwyr yn yr Uchel Lys fis diwethaf, dywedodd y barnwr Mr Ustus Lindblom bod camau Corfforaeth Dinas Llundain yn “gwbl gyfreithlon ac yn gyfiawn.”

Herio

Roedd y Gorfforaeth wedi galw ar y protestwyr, sy’n rhan o brotest rhyngwladol yn erbyn cyfalafiaeth, i symud eu pebyll yn wirfoddol. Er bod rhai pebyll yn dal ar y safle erbyn i’r heddlu gyrraedd, roedd nifer wedi dechrau eu symud cyn i’r beiliaid gyrraedd.

Serch hynny roedd grŵp o brotestwyr yn benderfynol o herio’r gorchymyn llys, gan chwifio baneri ar blatfform tu allan i’r gadeirlan.  Ond cafodd y platform ei dynnu lawr gan y beiliaid a chafodd yr ymgyrchwyr eu symud o’r safle.

Dywedodd un o’r protestwyr, Kai Wargalla, myfyriwr 27 oed o’r Almaen sydd wedi body n gwersylla tu allan i’r gadeirlan ers Hydref 15: “Mae’n drist iawn beth sy’n digwydd yma heddiw ond rwy’n credu y gallen ni fod yn falch o’r hyn rydan ni wedi ei gyflawni. Mae na ymosodiad ar ein cymuned yma, ond rydyn ni am ddod at ein gilydd eto a dod nôl yn gryfach.”