Bydd y cyfansoddwr byd-enwog Karl Jenkins yn cyflwyno’i waith diweddaraf ar lwyfan Pafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg 2012. Mae cyngerdd Karl Jenkins yn rhan o arlwy cyngherddau’r Brifwyl 2012 sy’n cael ei gyhoeddi heddiw.

Cynhelir yr Eisteddfod eleni ar hen faes awyr Llandw ger y Bontfaen, a bydd Only Men Aloud yn diddanu’r Pafiliwn ar y noson agoriadol ar nos Wener, 3 Awst.

Ar nos Sadwrn 4 Awst bydd premiere Prydeinig o waith Karl Jenkins, ‘Beirdd Cymru’, gyda’r cyfansoddwr ei hun yn arwain. Bydd cyfle hefyd i fwynhau dau unawdydd enwog, Dennis O’Neill a Rebecca Evans, ynghyd â Chôr Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg.

Gala Gomedi

Cynhelir y Gymanfa Ganu yn y Pafiliwn nos Sul, gydag Euros Rhys Evans yn arwain.

Ar y nos Lun bydd Dafydd Iwan yn dathlu hanner can mlynedd o ddiddanu cynulleidfaoedd ar draws Cymru ac yn ymuno ag ef bydd Ar Log, Heather Jones, Côr Plant Heol-y-March ac Edward Morus Jones.

Ar y nos Fawrth bydd Gala Gomedi am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod, yng nghwmni rhai o ddigrifwyr a pherfformwyr comedi mwyaf adnabyddus Cymru, gan gynnwys Tudur Owen, Arthur Picton, Daniel Glyn, Gary Slaymaker, Ifan Gruffudd a Dewi Pws.

Bydd  noson yng nghwmni Caryl Parry Jones nos Iau, gyda sioe sydd wedi’i chreu’n arbennig ar gyfer yr Eisteddfod eleni yng nghwmni’r band a rhai o’i chymeriadau enwocaf drwy’r blynyddoedd.

Mae Hywel Wyn Edwards, Trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol, yn edrych ymlaen yn eiddgar at y cyngherddau.

Meddai: “Rydym wedi creu nosweithiau ychydig yn wahanol i’r arfer eleni, ac rwy’n gobeithio bydd yr arlwy’n apelio at Eisteddfodwyr selog, yn ogystal â phobl sydd heb fentro i’r Pafiliwn o’r blaen.”