Bydd un o ladettes mwyaf adnabyddus Cymru, Rhian ‘Madam Rygbi’ Davies, yn mynd ben-ben â’r cyn-chwaraewr o Sais, Austin Healey, ar raglen Jonathan nos Wener.

Mae Healey’n enwog am fod yn uchel ei gloch a pharod ei farn ac wedi denu’r glasenw ‘Leicester Lip’, a bydd yn cael cyfweliad ar y rhaglen gan Rhian, y ferch â’r het gowboi binc.

Mae Healey wedi bod yn corddi cefnogwyr Cymru yn ddiweddar gyda’i sylwadau ar Twitter, ond dywed nad yw’n wrth-Gymreig

“Rwy’n caru cefnogwyr Cymru am eu hangerdd. Ond dwi ddim yn derbyn fod ganddyn nhw fonopoli ar angerdd. Rwy’n Sais ac yn falch o hynny ac os yw rhywun am ein corddi ni fe gordda i nhw nôl.”

Gan gyfeirio at gam-ymddwyn Lloegr yng Nghwpan y Byd, a digwyddiad yn cynnwys un o chwaraewyr Cymru ddwy flynedd nôl, dywed Healey: “Rwy’n teimlo trueni dros dîm Lloegr achos maen nhw’n dilyn rhyw chwiw. Ond o leiaf does neb o dîm Lloegr wedi’i ddal yn gyrru cart golff ar yr M4.

“Os hoffech chi chwarae i Loegr dylech chi ddwyn cart o glwb Wentworth ar bwys pencadlys ymarfer Lloegr a’i yrru lawr yr M3 achos mae timau eraill wedi gwneud pethau tebyg ac wedi mynd ymlaen i bethau da!”

Ar raglen Jonathan ar S4C nos Wener bydd yna westai arall sydd hefyd yn enwog bellach am fod yn llafar iawn, sef Brian ‘yr Organ’ o Benrhyncoch.