Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru wedi datgan ei gefnogaeth i Dreth Robin Hood newydd heddiw, ar noswyl cyhoeddi’r cyfres ddiweddaraf o daliadau bonws i fancwyr.

Carwyn Jones yw’r arweinydd llywodraeth cyntaf ar draws y DU i gefnogi’r dreth y mae Llywodraeth San Steffan wedi osgoi ei drafod hyd yn hyn.

Mae Carwyn Jones yn ymuno ag arweinwyr yn y byd busnes, gwleidyddol a chymdeithasol – gan gynnwys Bill Gates ac Archesgob Caergaint Dr Rowan Williams – wrth gefnogi’r dreth ar drafodion ariannol gan fancwyr.

Mae Oxfam Cymru hefyd yn gefnogwr brwd o’r syniad o gyflwyno’r dreth, gan ddweud y byddai’r arian yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr wrth daclo tlodi adref a thramor, ac wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd.

‘Cymryd cyfrifoldeb’

Wrth ddatgan ei gefnogaeth i’r dreth heddiw, mynnodd Carwyn Jones nad oedd “yn erbyn bancwyr, a dydw i ddim yn negyddol tuag at ddiwydiant gwasanaethau ariannol cyfrifol chwaith.”

Ond dywedodd fod angen i’r diwydiant gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros y caledi economaidd presennol.

“Dwi’n meddwl fod treth Robin Hood  wedi ei osod ar y lefel cywir, yn gwbwl rhesymol ac yn cynnig modd ymarferol i’r diwydiant ariannol  ddangos ei gyfraniad i gymdeithas,” meddai.

“Mae dealltwriaeth dda o gyfrifoldeb cymdeithasol yng Nghymru ac rydw i’n hyderus y gall pobol ar draws y wlad, ac ar draws y sbectrwm gwleidyddol, gymeradwyo’r dreth yma.”

Bydd y mater yn cael ei drafod yn y Senedd heddiw am 12.30pm, ac mae disgwyl i’r drafodaeth ennyn cyfraniadau gan bobol o bob plaid, a bydd yr Aelod o Senedd Ewrop, Jill Evans, yn gwenud araith o blaid y dreth.

Oxfam Cymru

Oxfam Cymru sy’n cynnal y digwyddiad yn y Senedd heddiw, ac maen nhw’n galw ar y “rheiny wnaeth greu’r argyfwng i wneud mwy o gyfraniad at ddiogelu bywydau pobol adref a thramor.”

Yn ôl pennaeth Oxfam Cymru, Stephen Doughty, maen nhw’n gobeithio y bydd y digwyddiad yn y Senedd yn gyrru “neges glir i Lywodraeth y DU y dylid cefnogi’r dreth bychan iawn hwn.”

Dywedodd fod Carwyn Jones “yn iawn i gydnabod y bydd y dreth yn ychwanegu gwerth i’n heconomi – ac nid yn ei fygwth fel mae gwrthwynebwyr yn ei honni’n gamarweiniol.

“Dyna pam ei bod hi mor bwysig bod llais Cymru’n cael ei glywed. Trwy ddangos ein cefnogaeth, gallwn ni ddangos fod hyd yn oed David Cameron a George Osborne wedi eu hynysu ar y mater hwn o fewn y DU.”