Cei Newydd
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn ymchwilio heddiw wedi i olew gael ei ddarganfod ar draeth Cei Newydd yng Ngheredigion.
Mae swyddogion Asiantaeth yr Amgylchedd yno’n ymchwilio ar hyn o bryd.
Cafodd swyddogion yr Asiantaeth eu galw i’r safle yn dilyn adroddiadau o Gyngor Sir Ceredigion fod olion ac arogl olew yn drwch ar y traeth.
Mae swyddogion yn dweud nad oes bygythiad o niwed i’r amgylchedd, ac y dylai’r olew wasgaru yn naturiol.
Ond mae’r Asiatnaeth yn dweud eu bod nhw’n “dal i fonitro’r sefyllfa’n agos, rhag ofn bydd yn rhaid cymryd camau pellach i gael gwared ar yr olew.”