Mae’n amser datganoli plismona yng Nghymru i ofal Llywodraeth Cymru yn ôl cyn Prif Gwnstabl Swydd Gaerloyw.

Yn ôl Dr Timothy Brain does dim hygrededd bellach i’r dadleuon yn erbyn gwneud hyn.
Dywedodd Dr Brain: “Efallai fod y penderfyniad i ddatganoli plismona yn un doeth pan ddechreuodd datganoli, ond gydag aeddfediad Llywodraeth Cymru, sydd fel y gwyddom yn gofalu am bethau pwysig fel iechyd ac addysg, nid oes unrhyw reswm bellach dros beidio â datganoli’r heddlu hefyd.”

“Nid oes hygrededd bellach i’r dadleuon yn erbyn gwneud hyn. Mae Lloegr a Chymru’n rhannu’r un system gyfreithiol, ond nid yw hynny’n unrhyw fath ar reswm digonol i beidio â datganoli plismona, yn enwedig ers i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ymwahanu oddi wrth y Swyddfa Gartref.”

Mae’n dadlau y gellid gadael rhywfaint o bwerau elfennol yn nwylo’r Swyddfa Gartref.

“Gydag ymrwymiad y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol at ‘fynd yn lleol’, pam ddylai pobl Cymru gael llai o berchnogaeth ar ddulliau plismona na phobl Jersey, Guernsey, neu Ynys Manaw, heb sôn am Yr Alban, lle mae plismona wedi bod yn fater datganoledig o’r cychwyn?

“Mae gan bobl Cymru’r hawl syml i gael mwy o lais wrth drafod rhywbeth mor greiddiol â phlismona.”

Bydd Dr Timothy Brain yn cyflwyno’r ddadl dros ddatganoli plismona mewn darlith wadd yn Narlith Flynyddol y Ganolfan Materion Cyfreithiol Cymreig sy’n cael ei drefnu gan Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Iau, 23 Chwefror am 7pm.

Dywedodd yr Athro Noel Cox, Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg: “Mae dyfodol heddlua yng Nghymru yn gyffrous ac heriol, ac mae’n fraint i ni gael clywed persbectif  rhywun mor brofiadol.”

Roedd Dr Timothy Brain yn Brif Gwnstabl ar Swydd Gaerloyw rhwng 2001 ac Ionawr 2010, wedi iddo wasanaethu cyn hynny yn Avon a Gwlad yr Haf, Hampshire, a Chanolbarth Gorllewinol Lloegr. Fe oedd arweinydd cenedlaethol ACPO (Association of Chief Police Officers) ar gyllid.

Mae’n siaradwr, ysgrifennwr, a darlledwr cyson ar ystod eang o bynciau plismona yn cynnwys dyfodol yr heddlu, arweinyddiaeth strategol, cyllid, a hanes yr heddlu.