Dafydd Elis-Thomas
Mae Dafydd Elis-Thomas AC yn lansio ffilm fer wedi ei hanimeiddio gan y cartwnydd ‘Mumph’ fel rhan o’i ymgyrch am arweinyddiaeth Plaid Cymru heddiw.
Mae’r animeiddiad yn ddwyieithog, ac yn amlinellu rhai o brif themâu ymgyrch yr Arglwydd Elis-Thomas i fod yn “arweinydd cynaliadwy i Blaid Cymru.”
Bydd Malcolm Humphreys, sef ‘Mumph,’ yn ymuno ag AC Dwyfor Meirionnydd ar gyfer y lansiad, ac yn esbonio pam mae’n cefnogi ymgyrch Dafydd Elis-Thomas.
Bydd y ffilm fer gan y cartwnydd ‘Mumph’ hefyd i’w gweld ar wefan ymgyrch Dafydd Elis-Thomas, sef http://www.dafyddelisthomas.org/cy
Bydd y lansiad yn y Black Boy yng Nghaernarfon, rhwng 4 a 5 pm, heddiw.