Mae dyn 35 oed wedi ei arestio yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng fan a thren ar groesfan ger Llanbrynmair toc wedi 12.30pm ddoe.

Arestiwyd y dyn o Groesoswallt ar amheuaeth o beryglu diogelwch, a’i ryddhau ar fechniaeth nes 21 Mawrth.

Aethpwyd a gyrrwr y fan i’r ysbyty ôl iddo anafu ei frest a’i gefn yn y gwrthdrawiad. Roedd y fan wedi gwrthdaro â’r trên 10.09am o Birmingham i Aberystwyth. Ni ddioddefodd unrhyw un ar y trên anafiadau.

Agorodd y rheilffordd drachefn am 3.40pm. Yn y cyfamser roedd gwasanaeth bws rhwng yr Amwythig a Machynlleth.

Dywedodd llefarydd ar ran Network Rail eu bod nhw’n helpu Heddlu Trafnidiaeth Prydain â’u hymchwiliadau i’r hyn ddigwyddodd.