Mae cwmni ceir wedi penderfynu symud eu gweithlu o Bowys i Wrecsam ar ôl derbyn archeb £12m gan General Motors.
Mae 49 o weithwyr Cobra yn y Trallwng wedi cael cynnig symud i’r safle 70,000 troedfedd sgwâr ar Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam, a agorodd yn gynharach eleni.
Enillodd y cwmni archeb y llynedd er mwyn darparu darnau ar gyfer y tu mewn i’r Vauxhall Astra newydd. Maen nhw hefyd yn creu darnau ar gyfer ceir Volvo, Bentley ac Audi.
Dywedodd cyfarwyddwr Cobra ym Mhrydain, Gary Seale, nad oedd y safle yn y Trallwng yn ddigon mawr i ganiatáu ehangu’r busnes.
Roedd tua hanner y gweithwyr yn y Trallwng eisoes yn teithio yno o Wrecsam, meddai.