Carl Whant
“Gwaith o ffantasi pur” oedd honiad Carl Whant ei fod e wedi cael cyfathrach rywiol gyda Nikitta Grender ychydig oriau cyn iddi farw.

Dyna ddywedodd Gregg Taylor QC, bargyfreithiwr yr erlynydd, yn achos llys y gŵr o Fettws heddiw.

Roedd Carl Whant yn parhau i roi tystiolaeth gerbron Llys y Goron Casnewydd, heddiw.

Mae Whant yn gwadu iddo dreisio a llofruddio Nikitta Grender. Mae e hefyd yn wynebu cyhuddiad o ladd plentyn Nikitta Grender, ac am losgi’r fflat lle y darganfuwyd ei chorff.

Ei gwaed yn ei gar

Roedd y rheithgor eisoes wedi clywed fod sberm Carl Whant wedi ei ddarganfod y tu fewn i gorff Nikitta Grender, a’i gwaed hi yn ei gar.

Dywedodd Whant fod ei gefnder Ryan Mayes wedi cynnig iddo gael cyfathrach rywiol gyda Nikitta Grender.

Mae Ryan Mayes eisoes wedi gwadu iddo gynnig hyn. Roedd Nikitta Grender yn disgwyl baban Ryan Mayes ymhen pythefnos pan gafodd hi ei llofruddio.

Croesholi Carl Whant

“Pan ddywedoch chi wrth y rheithgor am y rhyw yma, roeddech chi wedi ei wneud e lan,” meddai Gregg Taylor QC. “Mae’n ddychymyg pur.”

“Roedd hi’n fis Rhagfyr y llynedd erbyn i chi hysbysu’r erlyniad bod eich tystiolaeth wedi newid.

“Pam gymerodd hi mor hir?

“A allaf gynnig fod hyn oherwydd bod yr heddlu wedi darganfod yr had y tu fewn i gorff Nikitta, a’ch bod chi am geisio esbonio hyn?”

Atebodd Whant fod yr erlynydd yn anghywir i ddweud hyn.

Teulu Nikitta Grender yn y llys

Roedd y llys yn orlawn, wrth i’r erlynydd ddweud fod Whant wedi gwrthod ateb cwestiynau’r heddlu yn ystod ei chwe chyfweliad cyntaf.

Roedd Marcia a Paul, rhieni Nikitta Grender, yn y llys i glywed Whant yn honni ei fod e wedi ateb cwestiynau’r heddlu mewn datganiad blaenorol, a’i fod wedi “cael digon” o gael ei gwestiynu erbyn hynny.

Yn ei ddatganiadau i’r heddlu, oedd wedi eu llofnodi ganddo ar bob tudalen, roedd Whant wedi gwadu iddo gael unrhyw gyswllt rhywiol gyda Nikitta Grender.

Cafodd ei gwestiynu ar wyth achlysur gwahanol ar Chwefror 11eg.

Y diwrnod wedi hynny, dywedodd yr heddlu wrtho fod had wedi ei ddarganfod yng nghorff Nikitta Grender. Ymateb Whant ar y pryd oedd dweud ei fod yn teimlo’n “sâl” a gwrthod ateb rhagor o gwestiynau.

Gofynnodd yr erlynydd pam nad oedd Whant wedi sôn ynghynt fod Ryan Mayes wedi cynnig iddo gael rhyw gyda Nikitta.

“Doeddwn i ddim am ddweud unrhyw beth, rhag ofn i mi wneud dolur i Rachel neu Ryan,” oedd ymateb Carl Whant.

Rachel Bird yw cariad Carl Whant.

Croesholi’n effeithio ar deulu Nikitta

Aeth yr erlynydd ymlaen i holi Whant am y rhyw honedig â Nikitta. Dywedodd yr erlynydd ei bod hi’n rhyfedd fod Nikitta heb ddweud unrhyw beth o gwbl yn ystod y gyfathrach.

Ychwanegodd Whant nag oedd e wedi darllen pob datganiad i’r heddlu cyn arwyddo’r dystiolaeth.

Dywedodd fod yn rhaid bod yr heddwas wedi ei “ddrysu” gan nifer o fanylion.

Delweddau CCTV

Dangoswyd delweddau CCTV o Whant mewn tafarn o’r enw The Greyhound.

Roedd Whant eisoes wedi honni iddo ddioddef marciau crafu ar ei fraich pan oedd dynes anhysbys wedi ymyrryd wrth i Whant geisio ymladd dyn Asiaidd “trahaus”.

Honnodd Carl Whant fod y dyn anhysbys wedi tywallt diod Whant.

“Os oedd gennych chi’r marciau yma ar eich breichiau, doeddech chi ddim wedi dweud dim byd wrth eich ffrindiau,” meddai’r erlynydd.

“Doedden i ddim yn meddwl ei fod e’n berthnasol,” atebodd Whant.

Tystiolaeth yn y cerbyd gwaith

Wedi iddo fynd yn ôl i’r parti lle’r oedd Ryan Mayes yn aros amdano, roedd Whant wedi gyrru Ryan Mayes yn ôl i’r fflat oedd Ryan yn ei rannu â Nikitta, cyn gweld “heddlu ac injans tân ymhobman”.

Dywedodd Whant fod y car cwmni yr oedd yn ei yrru, sef Ford Focus arian, wedi bod ganddo ers Chwefror y 3ydd y flwyddyn honno.

Nid oedd yn gallu esbonio pam oedd gwaed Nikitta Grender o dan fat gyrrwr y car.

Darganfuwyd smotiau gwaed  oedd yn cyfateb i DNA Nikitta ar ei siaced ddu ‘bomber’ hefyd. Doedd gan Whant ddim esboniad am hyn.

Wedi i Whant gwblhau ei dystiolaeth, dywedodd Christopher Kinch QC, bargyfreithiwr yr amddiffyniad,  ei fod yn gobeithio cau pen y mwdwl ar dystiolaeth yr amddiffyniad yfory.