Llandudno
Mae arolwg wedi datgelu mai’r lle hapusaf i fyw yng Nghymru gyfan yw tref glan môr Llandudno.

Mae’r dref, ar arfordir gogleddol Cymru, wedi dod i’r brig yn arolwg arwerthwyr tai Rightmove o’r llefydd hapusaf i fyw yng Nghymru.

Roedd yn rhagori mewn agweddau fel diogelwch y gymdogaeth a safon y cartrefi, medden nhw.

Mae’r arolwg yn defnyddio deuddeg maen prawf er mwyn asesu sut mae pobol yn teimlo am le maen nhw’n byw, gan gynnwys maint a chyflwr eu cartref, y teimlad o gymdogaeth, a pha mor ddiogel yw eu cymuned.

Roedd Llandudno hefyd yn cyrraedd y chweched safle ar restr y llefydd hapusaf i fyw ledled y Deyrnas Unedig.

Cafodd dros 25,000 o bobol eu holi yn rhan o’r arolwg. Carlisle oedd ar frig y llefydd hapusaf.

Dywedodd Cyfarwyddwr Rightmove, Miles Shipside, fod yr arolwg yn rhoi golwg manylach i ddarpar brynwyr ynglŷn â’r math o gymuned y maen nhw’n bwriadu symud iddo.

“Mae mesuryddion traddodiadol y farchnad, fel tueddiadau prisiau a nifer y bobol sy’n prynu a gwerthu, yn werthfawr ac yn ddifyr, ond dydyn nhw ddim yn trin yr eiddo fel cartref,” meddai.

“Mae’r arolwg estynedig hwn o dros 25,000 o bobol ar draws y Deyrnas Unedig yn rhoi syniad i ni o ba mor hapus yn ein cartrefi ydyn ni fel cenedl, a pha ffactorau sy’n rhoi’r boddhad mwyaf i ni,” meddai.

Mae’r pum lleoliad uchaf yn arolwg y Deyrnas Unedig i gyd yng ngogledd Lloegr, gyda Llandudno yn chweched, tra bod naw o’r deg lleoliad lleiaf hapus i fyw ynddyn nhw yn y Deyrnas Unedig i gyd yn ardaloedd o fewn Llundain, neu yn ne ddwyrain Lloegr.