Alun Michael yn wynebu her
Bydd cyn-dditectif yn herio cyn Brif Ysgrifennydd Cymru, Alun Michael, i gael ei enwebu yn ymgeisydd Llafur am swydd Comisiynydd Heddlu De Cymru.

Mae gan Paul Cannon, sydd bellach yn gynghorydd,  30 mlynedd o brofiad yn yr heddlu ac mae wedi denu cefnogaeth enwau blaenllaw ymysg rhengoedd Llafur.

Mae’r Aelodau Cynulliad sydd yng nghabinet Llywodraeth Cymru, Leighton Andrews ac Edwina Hart, yn ei gefnogi yn ogystal â’r Aelod Seneddol, Chris Bryant.

Mae’r cyn-Brif Weinidog, Rhodri Morgan a’r Gweinidog Treftadaeth Huw Lewis yn cefnogi Alun Michael.

Lansiwyd ymgyrch Paul Cannon, â chyfrif Twitter a gwefan newydd.

“Rydw i’n deall yr heddlu ac yn hyderus y bydd modd i mi uniaethu â’r cyhoedd a mynd i’r afael â’u pryderon ynglŷn â’r heddlu,” meddai.

Dechreuodd Paul Cannon ei yrfa â’r heddlu yn 1973 cyn ymddeol yn dditectif arolygydd yn 2003.

Caiff yr etholiad ei gynnal ar 15 Tachwedd eleni.

Mae’r Blaid Lafur wedi cyhoeddi eu bod nhw’n bwriadu enwebu ymgeiswyr ym mhob un o’r pedwar heddlu yng Nghymru.

Mae’r cyn-filwr Simon Weston hefyd wedi cyhoeddi y bydd yn sefyll yn ymgeisydd annibynnol.