Fe fydd ysgol gynradd newydd yn cael ei hadeiladu ar dir gyferbyn â Ysgol Uwchradd y Drenewydd ar ôl i’r cynlluniau gael sêl  bendith cabinet Cyngor Sir Powys ddoe.

Fe fydd yr ysgol ar gyfer 270 o ddisgyblion yn cwrdd â’r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg yn ardal y Drenewydd ac fe all yr ysgol ehangu er mwyn gwneud lle i 30 o blant ychwanegol os ydy’r galw yn parhau i gynyddu.

Dywedodd y cynghorydd Stephen Hayes: “Mae’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg cynradd yn ardal y Drenewydd yn cynyddu’n gyflym ac mae’r ysgol presennol, Ysgol Dafydd Llwyd, yn llawn ond mae Estyn hefyd wedi tynnu sylw at nifer o ddiffygion yn adeiladau’r ysgol.

“Fe fydd yr ysgol newydd yn helpu’r cyngor i gwrdd â’r gofynion presennol, a’r dyfodol, am addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal a chreu ysgol newydd i blant ifainc.”

Mae’r safle yn ddigon o faint ar gyfer yr ysgol newydd arfaethedig ac yn gadael digon o dir i gwrdd â gofynion yr ysgol uwchradd, meddai’r cynghorydd.

Mae Cynghorydd Sir Dwyrain y Drenewydd, Richard White wedi croesawu’r newyddion gan ddweud ei fod yn falch bod y cyngor wedi “cydnabod bod addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir yn bwysig iawn.”