Mae nifer y diwaith yn y DU wedi cynyddu eto heddiw – bellach mae’r nifer fwyaf yn ddiwaith ers 16 blynedd.
Fe gynyddodd nifer y diwaith o 48,000 yn y chwarter hyd at fis Rhagfyr, i 2.67 miliwn, sef 8.4%, y ffigwr gwaetha ers diwedd 1995.
Yn g Nghymru roedd nifer y di-waith wedi gostwng o 3,000 i 134,000, sef 9.0%.
Mae nifer y rhai sy’n hawlio budd-dal diweithdra wedi cynyddu 6,900 ym mis Ionawr i 1.6 miliwn.
Ac mae nifer y bobl sy’n gwneud gwaith rhan-amser gan nad ydyn nhw’n agllu dod o hyd i waith llawn amser, wedi cynyddu 83,000 dros y chwarter diwethaf i 1.35 miliwn.
Fe fu cynnydd hefyd yn nifer y bobl ifainc rhwng 16 a 24 oed sydd hefyd yn ddiwaith – naid o 22,000 i 1.04 miliwn, gan gynnwys 307,000 mewn addysg llawn amser sy’n chwilio am waith.
Ond dyma’r cynnydd lleiaf yn nifer y diwaith ers yr haf y llynedd.
Croesawu’r ffigurau
Mae Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan wedi croesawu’r ffigurau heddiw sy’n dangos bod lefelau cyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu a diweithdra wedi gostwng ychydig. Mae nifer y bobl sy’n cael eu cyflogi yng Nghymru yn 68.5%, sef cynnydd o 0.8% ers y chwarter diwethaf.
Dywedodd Cheryl Gillan ei bod yn gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru a San Steffan yn parhau i gydweithio er mwyn creu swyddi a hybu’r economi yng Nghymru.
Dywedodd: “Tra bod lefel diweithdra yn parhau yn annerbyniol o uchel yn 9%, rydan ni’n gweld rhai arwyddion bod y sefyllfa’n dechrau gwella. Er hynny, mae’n rhaid i ni gydnabod bod dod dros un o’r argyfyngau ariannol gwaethaf yn ein hanes yn cymryd amser.
“Ddoe, dywedodd y Canghellor bod yn rhaid wynebu nifer o broblemau yn y wlad ond bod delio gyda’n dyledion yn un o’n blaenoriaethau, ac rydw i’n cytuno â hynny.”
Ychwanegodd mai’r nod nawr yw ceisio hybu busnes a denu buddsoddwyr i Gymru.