Mae Cymdedithas yr Iaith wedi ymateb i feirniadaeth academydd blaenllaw sy’n dweud nad yw eu dulliau ymgyrchu yn berthnasol bellach.
Yn ôl yr Athro Richard Wyn Jones mae angen i Gymdeithas yr Iaith newid ac esblygu, ac ers sefydlu’r Cynulliad mae Cymdeithas wedi bod yn llai perthnasol. Mae’n dweud nad oes neb yn gweithio’n llawn amser i lobio’r Senedd, ac mai methiant Cymdeithas yr Iaith ydy hynny.
Ond wrth ymateb i’r sylwadau am yr angen i fudiadau Cymraeg ganolbwyntio ar lobio, dywedodd cyn-gadeirydd y Gymdeithas Menna Machreth:
“Rwy’n gwybod bod rhai wedi bod yn dadlau hyn ers blynyddoedd bellach. Tra roeddwn i’n gadeirydd, roeddwn i’n falch o gydweithio gyda nifer o bobl yn ymgyrch y Gymdeithas i sicrhau statws swyddogol i’r Gymraeg.
“Fe ellid dadlau bod y Gymdeithas yn un o’r mudiadau sydd wedi ymateb orau i ddatganoli. Fe lwyddom i sicrhau statws swyddogol i’r Gymraeg trwy lobio cyson dros Fesur y Gymraeg, y darn o ddeddfwriaeth fwyaf ers i’r Cynulliad ennill pwerau deddfu. Mae sefydlu’r Coleg Cymraeg hefyd yn un o’n llwyddiannau mawr.
“Rydyn ni hefyd yn falch i weld Mudiadau Dathlu’r Gymraeg, sydd yn fudiad lobio cyfansoddiadol, yn mynd o nerth i nerth yn ddiweddar. Mae’r Gymdeithas wedi buddsoddi llawer o amser ac egni yn cynorthwyo’r grŵp ymbarél newydd. A hoffem eu llongyfarch ar sefydlu Grŵp Trawsbleidiol y Gymraeg yn y Cynulliad eleni.”
Bygythiad i gymunedau Cymraeg
Yn y cyfamser mae Cymdeithas yr Iaith yn bwriadu cynnal taith o gwmpas Cymru i dynnu sylw at y bygythiad i gymunedau Cymraeg.
Fe fydd ymgyrchwyr yn teithio o gwmpas y wlad ar daith i godi ymwybyddiaeth o’r her i ddyfodol yr iaith ar lefel gymunedol.
Gwelwyd gostyngiad sylweddol yn nifer y cymunedau lle mae dros 70% yn siarad Cymraeg – gostyngiad o 92 yn 1991 i 54 yn 2001, ac dywed y mudiad eu bod yn mynd i roi prif ffocws eu gwaith ar wyrdroi’r cwymp hynny.
Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: “Hoffwn ymestyn cyfle i bawb sydd yn poeni am ddyfodol ein cymunedau Cymraeg i ymuno â ni ar y daith ac awgrymu sut a lle y dylen ni ymgyrchu.
“Bydd yn gyfle i ddathlu llwyddiannau’r Gymdeithas dros y pumdeg mlynedd ddiwethaf, ond hefyd i dynnu sylw at yr her sydd yn wynebu’r iaith ar lefel gymunedol.”
“Rydym am ei gweld fel iaith dydd i ddydd ein cymunedau ac er mwyn sicrhau hynny mae angen i bawb – o’n cynghorau cymuned reit lan i’r Cynulliad – sylweddoli bod angen trawsnewid ein polisïau economaidd a chynllunio i sicrhau dyfodol llewyrchus iddi yn ein cymunedau.”
Bydd y daith yn dechrau ym mis Mehefin yn Eisteddfod yr Urdd yn Eryri.
Gallwch ddarllen darn blog arbennig gan Bethan Williams, Cadeirydd presennol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yma.