Glyn Davies - yn barod i gefnogi cynllun achub
Fe fyddai Aelod Seneddol Maldwyn yn croesawu cynllun i achub Canolfan y Dechnoleg Amgen ger Machynlleth.
Mae sïon lleol y bydd cyhoeddiad buan ynglŷn â phartneriaeth newydd i dynnu’r Ganolfan o drafferthion ariannol sydd wedi bod yn bygwth ei dyfodol.
Mae Cadeirydd Ymddiriedolwyr y Ganolfan, Iolo ap Gwynn, wedi cadarnhau fod cyfarfod o staff heddiw ac y bydd datganiad yn y dyddiau nesa’.
Yn ôl yr AS, Glyn Davies, mae dyfodol y Ganolfan ym Mhantperthog yn hanfodol i economi ac enw’r Canolbarth. Mae’n cyflogi mwy na 100 o bobol amser llawn a rhan amser ac mae straeon yn y wasg leol wedi awgrymu bod rhai yn y fantol.
‘Ofnadwy o bwysig’
Roedd Glyn Davies hefyd wedi deall fod anawsterau ariannol a thrafodaethau ynglŷn â’r dyfodol ac fe ddywedodd ei fod yn barod iawn i helpu unwaith y daw cyhoeddiad.
“Mae’r Ganolfan yn ofnadwy o bwysig, nid yn unig o ran yr economi, ond hefyd am ei bod wedi rhoi enw Canolbarth Cymru ar y map,” meddai.
“Pan ddaw cyhoeddiad, fe fydda’ i’n cysylltu gyda’r Ganolfan i ofyn am gyfarfod er mwyn gweld a alla’ i fod o unrhyw help.”