Charles Dickens
Yn sgil dathliadau 200 mlwyddiant ers genedigaeth yr awdur Charles Dickens, mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn honni bod ganddyn nhw un o’r eitemau olaf i’r meistr ei lofnodi.

Cafodd y siec am £21 ei llofnodi ar 6 Fehefin, 1870.

Credir fod Dickens wedi cyfnewid y siec am arian parod yn y London & County Bank, Rochester, Caint, wrth ymchwilio ei nofel olaf ‘The Mystery of Edwin Drood.’

Mae’r siec ar gyfer ‘House And Sundries,’ sef y term cyfredol ar gyfer arian parod.

Bu farw Dickens tridiau wedi hynny, ar 9 Fehefin, o drawiad y galon.

Cafodd ei eni ar 7 Chwefror, 1812.

Dickensmania!

Roedd y darganfyddiad yn syrpreis campus i weithwyr y Llyfrgell.

“Does ’na fawr o eitemau yn y Llyfrgell sy’n gysylltiedig gyda Dickens,” dywedodd Maredudd ap Huw, llyfrgellydd llawysgrif.

Ond dywedodd fod y siec yn “rhan o rywbeth go bwysig.”

“Mae’n dangos fod y Llyfrgell Genedlaethol nid yn unig yn ymwneud â phethau Cymreig,” meddai heddiw.

Mae’r argraffiad cyntaf o nofel olaf anorffenedig Dickens yn y Llyfrgell hefyd.

Cafodd y llyfr ei chyhoeddi yn dilyn ei farwolaeth.

Eiddo hanesydd o Sir Benfro

Roedd Arthur Leach, hanesydd o Sir Benfro, yn berchen y siec nes iddo farw yn 1957.

Cafodd Arthur Leach ei eni yn Ninbych y Pysgod. Er iddo adael y siec i’r Llyfrgell, does ddim gwybodaeth gan y Llyfrgell ynglŷn â sut ddaeth y siec i’w ddwylo ef.

Siec o’r banc ‘Coutts & Co.,’ oedd hi, sef banc y frenhines, a banc sy’n enwog am wasanaethu pobl gyfoethog.